Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/124

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

disgyn o ganol yr ystorm. Bron nad oeddym yn gweled natur yn agor ei breichiau led y pen pan ddechreuodd y gwlaw maethlon ddisgyn ar ei mynwes. Teimlem yn llawen a diolchgar fod y fendith wedi dod wedi cymaint paratoi a disgwyl, canys yr oedd pob deilen a glaswelltyn yn eiriol yn daer er's wythnosau am ymgeledd.

Faint o honom sydd wedi sylwi tybed mor anhraethol swynol y mae natur yn diolch am ei bendithion? Tra cenhadon yr awyr yn cyhoeddi y newyddion da mewn dull dipyn yn rhwysgfawr a thristfawr i galonnau bychain y llawr, llechai pob cyfaill asgellog yn fud a syn, ffoi i'r gwenyn gwyllt oedd gynau'n suo ganu wrth ddiwyd sugno'r mêl, i'w llochesau celfydd yng nghalon hen foncyff draw; swatiai'r blodau yng nghesail ei gilydd, a gwnae'r deilios gwyrdd eu goreu i'w noddi a'u calonogi; mae ffynhonnau eu perarogl wedi eu cau yn dŷn, rhag gwastraffu adnoddau mor werthfawr mewn cylchoedd mor anghydnaws. Ond pan ddychwelo'r cenhadon i'w cartref fry, ac y teymaso tangnefedd a distawrwydd, ac y disgynno y tyner wlaw fel olew ar ddyfroedd aflonydd, mor dlws a phêr y croesaw: mae pob deilen yn ymloewi, a phob deryn drwy'r wig yn prysur ymbincio ac yn lledu ei esgyll mewn gwynfyd wedi'r hir gaethiwed, ac yn torri allan i ganu fel yr eos yn y nos. Ni all y coed a'r blodau ganu, ond llanwant yr holl wlad â'u perarogl; dyna eu dull hwy o ddiolch i'r Crewr tirion am ei ryfedd ddaioni: a pha falm mewn byd pereiddiach nag arogl y blod'yn gwiw? Mae natur yn ei holl gysylltiadau yn rhoi ei goreu a'i phuraf ar allor ei diolch. Gwyn fyd na chaem ni lygaid i'w gweled, a'i deall, a'i hefelychu yn well, onide?