Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/126

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwery'r awel falmaidd drwy bob congl, gan buro a pher- ciddio erbyn toriad gwawr y dydd newydd. Clywir y daeodd yn cnoi cil yn hapus ar felusion y dydd. Mae'r gwenith addfed sydd o flaen y ty yn codi ei ben yn dalog wrth deimlo'r lleithder bywiol yn ymgeleddu ei wreiddiau, ac mae'r gwynt yn chwareu ar y tannau euraidd nes llanw'r awyrgylch â'i hwiangerdd.

Ond dacw'r ddyllhuan wedi dod allan i chwilio am swper, ac mae ei gwdi-hw yn merwino'r glust, ac yn achos i aml un gael hunllef; ond 'rwyf fi yn dipyn o ffrynd i'r gwdi-hw hefyd: mae golwg hynod freuddwydiol arni, a phe buasai'n gallu barddoni 'rwy'n siwr y gwnae bryddest benigamp ar ryfeddodau'r nos.

Rhyw noson rhwng cwsg ac effro fu'r noson olaf yn yr Andes: anodd oedd ymdawelu wedi'r fath olygfeydd; ac y mae yna ddistawrwydd rhy lethol i gysgu ynddo, a rhyw dawelwch felly ddaethai dros y Fro wedi peidio o'r gwlaw-natur i gyd yn gorffwys gan ddisgwyl cm y wawr. Minnau hefyd a orffwysais, ond nid heb gofio mai dyma fy noson olaf yng rgwlad y mynyddoedd, ac nid heb ddiolch am y gwynfyd a gawswn.