Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/127

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIV.

"ADIOS "

 ID wyf yn credu pe cawswn fyw i oed Methuselah y gwelswn fore mwy gogoneddus nâ'r bore olaf hwnnw ynghanol yr Andes: rhyw ffarwel dywysogaidd roddodd yr hen fynyddoedd i ni. Nid oedd y mellt. wedi llychwino plufyn o'r eira gwyn, na'r taranau wedi dymchwel yr un teyrn oddiar ei orsedd. Canu a dawnsio a chwerthin wnae natur drwy'r bore, a'r haul yn gweru'n foddhaus wrth weled y plant mor ddedwydd. Credaf fod nwyfiant yr awyrgylch wedi mynd i draed yr hen geffylau hefyd-'doedd dim dichon dal yr un o honynt, er carlamu a dwrdio a chwysu. 'Welsoch chwi geffyl castiog yn gwneud sport o'i feistr erioed? Byddai yn anodd gennych ei alw yn greadur direswm ar ol edrych arno am ryw bum' munud yn mynd drwy ei Gremares mares ymdumiau a'i branciau, ac yn drysu pob cynllun o'ch fullof danchis