Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/128

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ciddo gyda medr dewin. Mae yn ei fwynhau ei hun yn ardderchog hefyd, ac yn ymhyfrydu yn ei nerth; a phan fyddo wedi cael digon ar y spri, fe saif yn dawel, hamddenol, gan edrych mor ddiriwed ag oen llywaeth. Creulondeb, anheilwrg o ddynoliaeth, yw cosbi ceffyl am gael orig o hwyl pan fo'n teimlo ar ei galon: mae fel rhwystro plentyn iach i chwareu pan fo'r haul yn tywynnu.

Yr oedd yn ddrwg gan fy nghalon weld y ceffylau yn cael eu dal a'u rhoi yn y tresi; mor wahanol a fyddai eu byd ymhen ychydig ddyddiau—mor flinedig y coesau chwim a brancient mor wisgi gynau.

Yr oedd prysurdeb anarferol gylch Troed yr Orsedd y bore arbennig yma. Cyrchai cyfeillion o bell ac agos i ffarwelio a dymuno Duw'n rhwydd. Yr oedd amryw o'r cyfoedion ieuainc yn paratoi i ddcd i'n hebrwng daith diwrnod dros y mynydd, a threulio noson gylch tân y gwersyll i gydfreuddwydio am ddyfodol y Wladfa fechan. yng nghilfachau'r Andes. Mor dalgryf a lluniadd yw. plant y mynyddoedd yma: mae ystwythder yr helygen ymhob cymal, a grym y mynydd yn yr ysgwyddau llydain, cydrerth; gwrid yr haul sydd ar eu gruddiau, a glas y nen yn eu llygaid, a chalonnau cynnes, tyner, a deimlir yng nghydiad llaw; mae'r dwylaw'n arw hwyrach, ac ol y gaib a'r laso ar lawer o honynt, ond dwylaw Cymreig glân oeddynt er hynny, yn dra diesgeulus a difrycheulyd oddiwrth y byd. Gwyn fyd y dyn gaffo fod yn arweinydd iddynt drwy borfeydd gwelltog gwybodaeth; rhyfedd na fuasai maes mor doreithicg wedi denu rhyw ddyngarwr cyn hyn. Mae llawer o son am genedlgarwyr