Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyn eich arwain drwy'r diluw, hoffwn roi i chwi gip— drem frysing o Ddyffryn y Gamwy fel yr oedd cyn y diluw —dyffryn bychan gwastad rhwng bryniau graeanog, yn rhyw dringain milltir o hyd wrth bedair o led, a'r afon Camwy yn rhedeg drwy'r canol: hen afon fawr, droellog, Maling at its lang hamddenol pan yn ei hiawn bwyll, a'r helyg wylofus yn tyfu ar ei glannau gan chwareu mig â'r pysgod rhadlon ddeuant am wib i'r wyneb i wel'd yr haul.

Gwastad iawn yw y dyffryn, a chyn ei sefydlu gan y gwladfawyr yr oedd yn hollol ddigoed, oddigerth y coed ar lannau yr afon; ond erbyn blwyddyn y diluw yr oedd yno filoedd lawer o goed ar hyd a lled y dyffryn, wedi eu plannu gan y ffermwyr Cymreig, yn ceisio gwneud eu cartrefi fel bythynnod gwynion Cymru, yn nythu mewn llwyni coed. Ac yn wir, yr oedd golwg hapus, lwyddiannus arno—y ffermdai clyd o briddfeini neu gerryg, y caeau destlus, y berllan a'r ardd gylch y tŷ,—y daoedd porthiannus yn blewynna'r melusion, y ffarmwr diwyd yn dilyn ei arad ddwbwl yn hyderus baratoi ei dir erbyn y delai'r amser i fwrw'r hâd i'r ddaear; y plant ar eu ceffylau chwim yn cyrchu tua'r ysgolion mewn hwyl ac afiaith, please yn chwareu mabol gampau ar y ffordd; y mån bentrefi hal yn llawn brwdfrydedd gyda'u cyrddau llenyddol, y corau yn dechreu ymgasglu ynghyd er paratoi ar gyfer y frwydr eisteddfodol oedd i fod yn ystod y gaeaf—rhyw fywyd ac afiaith ymhob peth, fel pe byddai ffawd yn dechreu gwenu ar yr hen Wladfa wedi llawer o helbulon a gorthrymderau. Ond—diwrnod machlud haul oedd hi er hynny. "Canys yn y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agor-