Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd, a'r gwlaw a fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos."

Dechreuodd y gwlaw ym mis Mai; nid oedd neb yn synnu at y gwlaw ar y cychwyn, canys dechreu ein gaeaf ni yw Mai, a byddai'r gwlaw yn dod yn ei dymor, a phawb yn paratoi ar ei gyfer. Ond yn y flwyddyn 1899 ni chafwyd ffordd sych dramwyol o fis Mai hyd ddiwedd Tachwedd. Gwlawiai am ryw bythefnos yn ddwys-ddyfal, yna delai'r haul allan yn ei ogoniant, a'r wybren las uwchben yn edrych mor hafaidd a siriol fel y gallesid tybied. fod y cyfan drosodd am ysbaid maith. Ond ail-ddechreu wnae cyn pen ychydig ddyddiau, nes erbyn canol Mehefin yr oedd y dyffryn fel cors, a thrafnidiaeth a masnach wedi eu parlysu.

Yn araf ond sicr fe godai'r afon, a'r dwr llwyd-felyn yn corddi yn chwyrn ar ei ffordd tua'r môr. Dechreuai tun rhai o'r hen sefydlwyr ddarogan fod llif yn agosâu, canys cawsid llifogydd bychain ym mlynyddoedd cyntaf y Wladfa: ond gwenu'n anghrediniol a wnae'r mwyafrif, gan dybied mai rhyw dymor ychydig yn wlypach nag arferol ydoedd, ac y deuai haul ar fryn eto. Ond dal i wlawio yr oedd, a'r afor yn dal i godi, ac yn y mannau isaf ar y dyffryn yr oedd eisoes wedi torri dros ei cheu-l lannau; ond yr oedd y Dyffryn Uchaf, a'r mwyaf ffrwyth- lon, yn ddiogel hyd yn hyn. Yr oedd yno gannoedd o Gymry dewr yn gweithio ddydd a nos ar genlannau'r afon i gadw'r gelyn rhag dinistrio eu cartrefi clyd.

Nid oedd yr hin yn oer fel arferol, ac nid oedd chwa o wynt yn cynhyrfu mân donnau'r afon, nac yn sibrwd ym mrig y coed: y wybren lâs ddigwmwl wedi troi yn un