Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cwmwl mawr caddugawl. Ni welwyd haul y dydd na ser y nos am yn agos i bedwar mis. Disgynnai'r gwlaw o ddydd i dydd ac o nos i nos mewn distawrwydd ofnadwy.

Yr oedd hyd yn oed yr anifeiliaid fel pe'n deall fod rhywbeth allan o le; ymgynullent yn yrroedd mawrion ar yr ucheldiroedd gan sgrwtian yn anfoddog yn y gwlybaniaeth oedd mor ddieithr iddynt. Cwynfannai'r defaid yn ddolefus ar y gwastadeddau corsiog mewn hiraeth am ddaear gadarn a chorlannau diddos. A thrwy'r dyffryn i gyd yr oedd pob calon yn curo mewn pryder ac ofn.

Ar y 15fed o Orffennaf, ar nos Sul fythgofiadwy, disgynnodd y dinistr ar y dyffryn tawel gyda rhuthr dychrynllyd, gan ysgubo ymaith mewn ychydig oriau. lafur ac aberth deg mlynedd ar hugain.

Noson ddu, ddiloer, yn nyfnder gaeaf, a'r gwlaw yn dyfal ddisgyn,—carlamai'r bechgyn glew ar eu ceffylau heinyf drwy'r cyfan o dŷ i dŷ, ac o bentref i bentref, a'r un oedd y gri ymhob man, "Ffowch am eich einioes, mae'r dwr yn dod!"

Y tadau a frysient i'r caeau i gyrchu'r ceffylau i'w dodi yn y wagen, a'r mamau dychrynedig a godent eu rhai bychain o'u cwrlid clyd, cynnes, gan frysio i'w dilladu oreu y gallent; y gwyr ieuainc a'r gwyryfon gasglent ynghyd y daoedd i'w gyrru tua'r bryniau, rhag eu colli yn y dyfroedd. Ond pwy all ddesgrifio y mudo rhyfedd hwnnw? Dim. ond chwarter awr o rybudd a geffid yn aml, a rhaid oedd ceisio gofalu am ymborth a dillad i gadw newyn ac oerni draw; ond yn aml iawn, cyn y byddai'r wagen wedi cychwyn, byddai y dwr wedi cyrraedd,—chwip ar y ceffyl-