Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am y wawr, ac eto yn ei hofni ag ofn mawr iawn. Fel pe mewn gwawd, fe gododd yr haul yn ei holl ogoniant arferol y bore cyntaf yma, ynte ai fel cennad hedd a gobaith y daeth? canys diau i'w belydrau siriol fod yn nerth i lawer calon ysig yn y dydd du hwnnw.

'Rwy'n digalonni wrth feddwl tynnu'r darlun, ddarllenydd tirion: mae mor amhosibl ei sylweddoli ond i'r rhai fu'n dystion mud o'r trueni. Ond nid llawer o ddim. ond dwr oedd i'w weled yn ystod dyddiau cyntaf y lli: cyrhaeddai o fryniau i fryniau, heb son am afon na chamlas, na thai na thiroedd, d'm ond brig y llwyni coed yma ac acw fel mân ynysoedd ynghanol y môr. Dadleuai'r plant a'u gilydd er ceisio penderfynu lle y dylasai eu cartrefi fod: byddai ambell dŷ cadarnach na'r cyffredin wedi sefyll hwyrach, a dim ond y tô a'r simneiau yn y golwg.

Pe daethai estron i ben y bryniau ar ddamwain, hawdd fuasai iddo ddychmygu mai bau mawr oedd y dyffryn, yn llawn o gychod pysgota, canys yr oedd yno lawer iawn o bethau yn nofio ar wyneb y dwr; ymddanghosent o bell fel cychod, ond pan elid i lawr i'r pentref agosaf, sef y Gaiman, lle nad oedd y dyffryn onid rhyw ddwy filltir o led o fryn i fryn, ceid eglurhad buan a thrist ar y cychod. Yr oedd pont fawr gref yn croesi'r afon yn y Gaiman, ac yn ystod dyddiau cyntaf y lli cedwid cwmni o ddynion ar y bont ddydd a nos, rhag fod y teisi gwenith, a'r teisi gwair, a'r dodrefn, a'r celfi amaethu, ddeuent yn llu gyda'r dwr yn ei blocio a'i hysigo. Ie, dyna oedd y cychod-holl gynnwys y cartrefi clyd yn mynd tua'r môr.