Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar hyd y ffordd arferol nid oes ond rhyw naw milltir rhwng Trelew a Rawson, prif dref y Diriogaeth, ac eisteddfa'r Rhaglawiaeth: ond i fyned yno ym misoedd y lli Thaid oedd teithio dros y paith anial am ddeg milltir ar hugain, ac wedi cyrraedd yno, dyna olygfa druanaidd a geffid.

Dyma oedd Canan yr hen Wladfawyr 35 mlynedd yn ol: yma y dechreuasant sylweddoli rhai o ddyheadau a breuddwydion eu bywyd; yma yr adeiladasant eu bythynnod cyntaf o dywyrch a gwellt, a'u toi à brwyn a helyg, gan dorri'r coed a chasglu'r brwyn, a dewis eu tiroedd heb ofyn caniatad i neb pwy bynnag.

grab Yma y gwelsant yr Indiaid gyntaf: mintai fawr o honynt yn cyrraedd ryw nawn-gwaith tawel, a golwg wyllt, beryglus arnynt gyda'u gwisg groen a'u gwallt du hir, a'u meirch nwyfus wedi eu gwisgo mor orwych gyda charpedau amryliw, a ffrwyni a gwrthaflau arian yn fflachio ym mhelydrau'r haul. Bu dychryn mawr yn y gwersyll bychan gwledfaol y dydd hwnnw; anawdd gwybod syndod pwy oedd fwyaf, eiddo'r Indiaid wrth weled cymaint o bobl wynion, ynte eiddo'r Cymry wrth weled cymaint o bobl felyn. Ond dydd gwyn iawn fu yn hanes y Wladfa, er hynny,-dydd ffurfio cyfeillgarwch rhwng yr Indiad a'r Cymro bery'n bur mi obeithiaf tra bo brodor yn troedio'r peithdir.

Eithr ymhell cyn blwyddyn y lli, mudasai y Cymry o un i un i'w ffermydd ar hyd a lled y dyffryn, gan adael yr hen gartref cyntefig i fynd yn eiddo'r Hispaeniaid a'r Italiaid. Yr oedd wedi tyfu yn dref weddol lewyrchus, a channoedd o dai heirdd ynddi, a chan ei bod wedi ei