Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pawb wrthi a'u holl egni yn cario priddfeini a choed, brwyn a helyg, i ben pob bryn, ac yno yn adeiladu bwthyn unnos i lechu hyd doriad gwawr y dyfodol gwell. Ac ni fu eu ffydd yn ofer; mae'r nef yn gwenu heddyw ar blant y tonnau, a grawn aeddfed Ionawr yn gwledda'n helaeth ar waddod y diluw.