Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Canu'n iach fore trannoeth a "chwifio'r cadach gwyn" yn nhro ola'r ffordd. Teithio am fisoedd, crwydro miloedd o filltiroedd ol a blaen,—gweled rhai o olygfeydd godidocaf y byd, cael cip ar fywyd gwell a dyheadau uwch,—a dod 'nol i'r hen gartref i geisio sylweddoli rhai o'r breuddwydion, a hwyrach, wedi gorffwyso ac ymdawelu o flinderon y daith, ddanfon gair tros y don at fy nghydieuenctyd yng Nghymru i ddweyd wrthynt beth. welais yn yr Andes.

Eithr dyn sy'n cynllunio, ond Duw sy'n trefnu." ustafe Cyn rhoi pin ar bapur, cyn dadebru o gyfaredd swynion. yr Andes wen, cyn cydio mewn bywyd fel y darllenaswn ef yng nghysgod y mynyddoedd,—yr oedd cartref fy mebyd yn garnedd o adfeilion, a minnau yn ffoadur di-gysgod a digartref ar lethrau'r bryniau, tra dyffryn tawel y Gamwy, gyda'i ffermdai clyd a'i fân bentrefydd yn orchuddiedig â dwfr, a dim i'w weled ond brig y coed fel mân ynysoedd ynghanol y môr,—y nef fel pe wedi troi cefn ar y fangre fuasai gynt mor llewyrchus; y ffurfafen yn gwgu'n guchiog ac yn dal i dywallt y gwlaw yn ddidrugaredd; tair mil o Gymry digartref yn byw mewn pebyll ar fryniau graeanog y dyffryn, a phopeth oedd anwyl ganddynt wedi ei ysgubo ymaith tua'r môr.

Ychydig iawn o eiriau fyddai'n ddigon i ddesgrifio fy mywyd yn ystod y misoedd dilynol,—mewn cychod, mewn dwfr, mewn llaid, mewn malurion yn chwilota am weddillion; weithiau mewn dillad sychion, yn amlach mewn dillad gwlybion. Gweld y dwr yn cilio, o'r alanas he yn dod i'r golwg, murddyn ar ol murddyn yn ymgodi fel ysbrydion y dyfnder, a'r celfi fuasai gynt yn drysorau teulu-