Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

-tra'm pabell bridd rhwng muriau coed, chedai fy enaid mewn gorfoledd ar frigau gwyn yr Andes, a drachtiai yn helaeth o ysbryd y mynyddoedd, heb gofio dim am flinder corff ra'r dyfodol tywyll oedd yn hylldremu o ganol cors arobaith fy nghartref adfeiliedig. Sugnwn nerth a gobaith wrth syllu ar Orsedd y Cwmwl; mae'r Orsedd yn ddigon gwyn i gymylau'r nef ddisgyn yn esmwyth arni i orffwys ennyd cyn tywallt eu bendithion ar ddaear sychedig. Ac fel yna, o nos i nos, yng ngoleu gwan fy nghannwyll wêr, a rhwng bregus furiau fy mwthyn coed, yn nistaw- rwydd nos y paith, y cefais fy nghip, mewn adgof, ar Gopa'r Andes.