Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weithiau yn ystod y daith, ac wedi noswylio a thorri newyn, byddem yn prysur bluo'r ysbail yng ngoleu siriol tân y gwersyll, gan ganu a dweyd straeon, a phenderfynu drwy dugel pwy gai rostio'r wydd ar doriad gwawr drannoeth; ond Ow'r siomiant chwerw am! fore! er pob dyfais i guddio'r trysor, byddai greddi y cadno wedi ein rhagflaenu, a Madyn wedi cael swper wrth fodd ei galon. Yr oedd colli brecwast flasus yn beth digon diflas, ond cofio am y dyfal bluo wnae'r golled mor chwerw.

Wel, dyma ni'n cychwyn o'r wersyllfa gyntaf, gan adael y dyffryn o'n holau, ac wynebu ar y paith anial a sych. Bydd llawer tro ar fyd cyn y delom yn ol i olwg hen ddyffryn ein mabwysiad: bydd yna bennod newydd wedi ei hysgrifennu yn llyfr ein bywyd. Rhyw deimlad o hiraeth ddaeth trosom er gwaethaf pob cywreinrwydd beth fyddai ein hanes ymlaen yna yn y diffeithdiroedd dieithr; beth fyddai hanes cartref pan ddychwelem—a fyddai pawb yno?—a gollem ni ambell i wyneb oedd yn blethedig â dyddiau ein plentyndod?

Codwn o'r dyffryndir i'r peithdir dreiniog, gan droi yn ol yn ddistaw—ddirgel i gael un gipdrem ar yr hen afon sydd yn pasio drws ein cartref. Yr oedd yr hen afon wedi bod yn ymblethedig â'm holl fywyd; yr oeddwn wedi'm suo i gysgu bob nos ym miwsig ei dyfroedd; gwelais y wawr yn troi ei dwr llwydaidd fel enfys brynhawn, a'r "lloer yn ariannu'r lli" nes gwneud drych gogoneddus i'r wybren serliog uwchben; gwelais eira'r Andes wedi rhewi ar ei bron, a gwres haul canol dydd yn datod y cwlwm rhewllyd, a'r mân fynyddoedd yn mynd fel llynges fuddugoliaethus tua'r Werydd. Wrth