Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

islaw, yr hen afon i'w gweled yn ymdroelli'n araf dan gysgod yr helyg, a ninnau'n rhostio ac yn sychedig, ond dim modd mynd â'r wagenni i lawr, dim ond danfon y ceffylau a chario y dwfr mewn costrelau at angen y gwersyll. Cafwyd cryn hwyl yn ceisio dodi y babell i fyny ynghanol storm o wynt cethin, a cheisio ymladd am damaid o fwyd â'r cawodydd tywod oedd yn chwyrnellu o'n cwmpas. Ond mi gredaf na chafwyd erioed well blas ar fwyd mewn unrhyw blasdy moethus.

Nid oedd yn y daith drannoeth ddim neilltuol, ond ein bod ni'r marchogwyr wedi mynd gyda'r afon, gan adael y wagenni i fynd dros y paith, ac i gyd-gwrdd ar ddiwedd y dydd. Cawson ambell i le digon peryglus ar y daith hon, ond yr oedd hynny yn atodi at ei swyn.

Tua hanner y ffordd gwelcm fwthyn bugail ar ochr ddeheuol yr afon. Bachgen o Gymro a adwaenem yn dda oedd ei breswylydd. Penderfynwyd os oedd yno rywfath o gwch ein bod yn mynd i groesi. Felly bu,- rhoddwyd gwaedd, adseiniai'r creigiau cylchynnol "Cwch!" Gwelem rywun yn cyrchu tua'r afon, ond nid y Cymro ieuanc a ddisgwylid, ond swp o ddynoliaeth gyn ddued glo Cwm Rhondda. Bu peth petrusder ymha iaith y cyfarchem y gwr dieithr hwn; penderfynwyd ar yr Hispaeneg, a bu lwyddiannus. Nid oedd ein cyfaill gartref, ond yr oedd i ni groesaw i ddod trosodd a chael cwpaned o de.

Sut gwch oedd ganddo? O, wel cwch iawn, dim ond i un dywallt y dwfr allan tra byddai'r llall yn rhwyfo, ac fe elem yn gampus! Rhwng y dyn du a'r tê a'r cwch yr oedd y swyn yn angherddol, a phenderfynwyd yn unfrydol