nau'r afon. Yr oedd yn ddiwrnod gorffwys drwy y dydd drannoeth, gan mai teithio'r nos oedd y rhaglen nesaf felly, nid oedd angen ysgwyd o'r nyth mor bylgeiniol. Mwynhawyd y boreufwyd gan bawb; dim eisieu rhuthro ymaith i ddal y ceffylau a phacio mewn brys, ond pawb yn ei fwynhau ei hun mewn tangnefedd.
Pan oedd yr haul yn machlud yn y Gorllewin draw yr oedd pob wagen yn barod. Trwy ein bod yn teithio'r nos, penderfynodd fy nghyfeilles a minnau mai gwell fuasai swatio yn y wagen, ac felly paciwyd ni ynghanol y celfi fel dwy sach wlan, a chyn ein bod hanner y ffordd yr oeddym yn edifarhau mewn sachlian a lludw i ni erioed roddi troed yn yr hen wagen ysgytiol. Yr oedd yn noson lawn lloer, ac O! yr oedd yn hyfryd teimlo'r awel iraidd ar ol arfer teithio yng ngwres y dydd, Yr oedd y gyr ceffylau wedi mynd ymlaen, a chlywem swn y clychau yn dod gyda'r awel. Weithiau disgynrai'r marchogwyr i wneud tanllwyth o dân i ymdwymo a gorfiwys. Ond ymlaen yr elem yn ddyfal, ddyfal, ar hyd cydol y nos, môr o ddrain o'n cwmpas am filltiroedd lawer, a'r mil myrdd sêr yn gwenu'n siriol arnom. Ond heriaf unrhyw fardd dan haul na lloer i gyfansoddi llinell o farddoniaeth tra'n teithio mewn wagen ar draws "hirdaith Edwyn," er ei bod yn llawn lloer a natur yn ei holl hudoliaeth o'i hamgylch.
Pan gaem ambell ddarn gwastad o ffordd byddem yn dechreu ymgysuro y caem gyntun bach i anghofio ein holl ofidiau; ond pan fyddai hi bron dod, teimlem ein hunain yn dechreu dyrchafu yn y byd a bron mynd i hedeg, a'n cwymp a fyddai mawr.