Pam y gwneir y daith arbennig hon yn y nos? Am mai hirdaith ddiddwfr ydyw, chweneg (60) milltir o grasdir sych heb ddyferyn o ddwfr i dorri syched dyn nac anifail; ac er teithio'r nos, bydd yr anifeiliaid druain yn dioddef llawer cyn cyrraedd pen y daith. Erbyn pedwar y boreu yr oeddym wedi cyrraedd pen yr hafn oedd yn disgyn i'r afon, a chan fod honno yn faith a thrafferthus i'w theithio, penderfynwyd cael byrbryd i geisio deffro ac ymadnewyddu. Ond yn wir, yn wir, bu yn helynt difrifol ar Mair a minnau i symud o'r wagen fythgofiadwy: nid oedd cymal o'n corffyn tlawd nad oedd yn gleisiau difrifol, a phe buaswn fardd, rhyfedd os na wnaethwn duchangerdd i'r wagen arbennig honno.
Pan oedd y wawr ar dorri yr oeddym yn disgyn o'r peithdir uchel drwy hafnau mawr oedd yn arwain yn raddol tua'r afon. Gwyn fyd na allwn ddesgrifio lliw'r wawr ar y creigiau fel yr araf deithiem drwy'r hafnau. Mae ffurf y creigiau hyn yn gywrain iawn, ac y maent yn amrywio llawer yn eu lliw a'u hansawdd,—rhai fel gwyrdd y môr, ereill yn rhuddgoch fel codiad haul, rhai yn ddu fel glo'r Rhondda, ereill mor wyn a'r iâ oesol. Yn yr agennau tŷf y drain amryliw eu blodau, a'r wawr yn lledu yn dyner—ddistaw ar yr olygfa.
Eiriolais ar i'r wagen aros ac i'r gyr ceffylau ymdawelu; teimlwn fod y fangre yn gysegredig, ac O! fel yr oedd y darlun yn newid bob eiliad nes yr oedd y llygaid dynol eiddil yn dallu wrth syllu arno; yr oedd ysbryd y wawr wedi disgyn arnom oll, a safem yn fud, ac yn fwy gwylaidd nag y buasem erioed o'r blaen. Or tra mewn rhyw hanner lesmair fel hyn, wele'r haul,