megys ag un naid yn entrych y nen, ac yn fflachio ei oleu dros ein byd nes newid yr olygfa yn gyfangwbl.
Wedi bod yn troelli ac yn disgyn am ysbaid dwy awr, clywem floedd ymlaen-" Yr afon gerllaw." Mae'n anawdd iawn gennyf beidio credu nad oedd yr hen geffylau blinedig yn deall y frawddeg yna i'r dim, canys nid oedd modd eu hatal ar ol hyn, ymlaen yr elent dros greigiau a thrwy ffosydd, nes o'r bron y cyrhaeddodd ein tipyn esgyrn yn gyfain; ond O! mor wynfydedig oedd cael golwg ar yr hen afon anwyl gyda'i digonedd dwfr. Golygfa i'w chofio oedd gweled y gyr ceffylau wedi carlamu ymlaen, ac wedi rhuthro i ganol yr afon, a dyna lle'r oeddynt yn gweryru ac yn prancio o wir fwyniant. Rhyfedd drefn yr hen fyd yma onide? I'r hwn a fedd leiaf o angen y rhoddir fwyaf y rhan amlaf; y gweithwyr dyfal oedd wedi tynnu'r wagenni llwythog ar hyd 60 milltir o grasdir diffaith, oedd a mwyaf o angen dwfr, a hwy oedd yn ei haeddu fwyaf hefyd, ond yr oedd y segurwyr wedi cael eu gwala a'u gweddill ymhell o'u blaenau.
Cyn pen hanner awr ar ol cyrraedd yr afon, yr oedd pawb yn chwyrnu cysgu, a miwsig y dyfroedd fel hwiangerdd i'n suo.
Tua deg o'r gloch, pawb yn treio sgrwtian codi, ond yn edrych yn ddigon llipa; ond rhaid oedd codi i geisio limp paratoi ychydig enllyn er cadw corff ac enaid ynghyd. Ond erbyn hyn yr oedd y gwynt yn anterth ei gynddaredd, a'r cawodydd tywod mor boeth-ddeifiol nes gyrru pawb ar ffo i chwilio am loches; diwrnod o ddiflasdod perffaith, pawb o'i hwyl, a dim yn dod yn iawn; disgwyl