rhyw fore o wanwyn, pan oedd natur yn gwenu ar drothwy ei bywyd newydd, wele'r pedwar llanc yn cychwyn ar eu taith ymchwiliadol. Yr oedd un yn blentyn y paith, a dyrus lwybrau'r hen frodorion yn gyfarwydd iddo: y lleill yn feibion Cymru fynyddig, wedi arfer dilyn mân lwybrau'r praidd ar hyd glâs lethrau a dolydd Gwalia.
Teithiasant fel hyn yn ddiddig-ddiddan o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos, gan weled rhyfeddodau di-ben-draw, a gwneud llu o gestyll gwych,—sut yr oedd i fod yn y dyfodol. Weithiau dilynent yr afon dros greigiau serth, danheddog, dringent fel geifr, gan beryglu eu bywyd bob munud, ond gwynfydert yn yr ymdeimlad o fod yn ddarganfyddwyr. Bryd arall ffarwelient â'r hen afon, a thorrent allan i'r peithdir diderfyn gyda'i for o ddrain amryliw, a'r miloedd anifeiliaid gwylltion—unig ddeiliaid y deyrnas enfawr hon.
Pa ryfedd fod y pedwar llanc wedi eu llyncu i fyny yn gyfangwbl gan gyfaredd y cylchynion, nad oes eu tebyg ar y ddaear yn ol tystiolaeth rhai o deithwyr enwocaf y byd Pa ryfedd iddynt ymgolli nes anghofio yn llwyr mor unig oeddynt, ac mor bell o bob ymwared dynol, ac fod. milwyr Hispeinig wrth y cannoedd yn cyniwair drwy'r anialdiroedd hyn, nid i hela'r anifeiliaid gwylltion oedd yn anrhaith gyfreithlon iddynt: O na, hela'r Indiaid yr oeddynt hwy, etifeddion y paith er's canrifoedd cyn bod son am Hispaenwr.
Barnai seneddwyr dysgedig yr Argentine mai'r unig ffordd i ddadblygu a gwareiddio Patagonia oedd drwy ddifa'r hen frodorion yn llwyr o'r wlad; a dyna oedd yr ymgyrch fawr hon yn amser y pedwar llanc. Yr oedd