gwaewffyn yn ymwibio o'u deutu, rhuthriadau, codymau ac ysgrechau. Yr oedd ceffyl y llanc gwladfaol yn gryf a bywiog, a phan glywodd y waedd ac y teimlodd flaen picell, llamodd yn ei flaen hyd at ffos ddofn, lydan, yr hon a gymerodd âg un naid,—a naid ofnadwy oedd honno. Pan edrychodd y marchogwr drach ei gefn gwelai ddau frodor yn dilyn gan oernadu fel gwylliaid annwn, a thorf wedi ymgronni tua'r fan y goddiweddasai hwynt.
Nid oedd gan y ffoadur bellach ddim i'w wneud ond ceisio dilyn ymlaen i'r Wladfa am ymwared—fwy na 100 milltir o ffordd—heb fod ganddo damaid o fwyd. I mi, a glywodd yr hanes oddiar wefus y ffoadur, mae fel darn o stori o wlad hud, mor amhosibl ac ofnadwy yr ymddengys: ond diau mai'r dychryn a'i cynhaliodd ar y daith fythgofiadwy honno. Mae'r paith o Ddyffryn y Beddau i'r Wladfa y mwyaf anial a diffrwyth yn yr holl wlad, a darnau helaeth o hono yn ddiddwr. Eithr dilynwn y ffoadur unig am ennyd; ond, ys dywedai, ni theimlai'n unig: dychmygai fod holl ellyllon y fall wrth ei sawdl bob cam o'r ffordd, a chred yn ddiysgog, a chredaf finnau hefyd, fod yr hen geffyl ffyddlon achubodd ei fywyd drwy ei naid erchyll, yn teimlo yr un fath yn union.
Am oriau ni thorrwyd carlam, ond daeth natur a llenni'r nos i alw'n groch am orffwys, a phan gafwyd ychydig ddwfr llwyd-leidiog mewn pantle, bu fel dracht o fywyd newydd i ddyn ac anifail. Ond yr oedd cysgu neu orffwys yn amhosibl; yr oedd pob twmpath yn troi'n Indiad, ac yn nesu tuag ato: ysgrechiadau'r ddyllhuan