Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chyfarthiad cecrus y llwynog yn troi'n rhyfelwaedd frodorol. Ac yr oedd y cof am ei gymdeithion diamddiffyn yn ei symbylu a'i nerthu i wneud pethau anhygoel yn ei ddyhead am gael ymwared iddynt.

Teimlai weithiau na ddelai'r can milltir byth i ben, ac y byddai'n rhaid iddo ef a'i geffyl roi fyny'r ymdrech a gostwng pen i farw o newyn a syched ynghanol yr anialwch didrugaredd. Ni allai y ceffyl truan ond cerdded yn araf erbyn hyn, a'r teithiwr yn ei wendid a'i newyn yn gorfod glynu ar ei gefn fel ei obaith olaf am ymwared; ac fel yna, o gam i gam, a phob munud megys blwyddyn, y cyraeddasant ben uchaf Dyffryn y Gamwy, ac y medrasant, drwy boen a lludded anhraethol ry fawr i eiriau eiddil, droi eu camrau tua'r bwthyn cyntaf oedd yn llechu mor dawel ynghanol ei lwyni coed.

Ac yna, bu gwaedd ddolefus drwy ein Gwladfa fechan, —dychryn, galar, a dagrau, ar bob grudd; aeth ein dyffryn yn fro wylofain, ac ni allai glesni nef na llewyrch haul oleuo dim ar y tywyllwch dudew a'i gorchuddiai. Ond toc, daeth cri'r llanc lluddedig i adsain ymhob calon. Ymarfogwn i'r gâd! gwaredwn ein brodyr, a dialwn eu cam! A chyn pedair awr ar hugain yr oedd triugain o wyr a llanciau dewraf y Wladfa yn cychwyn yn llu arfog tua man y gyflafan. Pwy sy'n arwain? Pwy ond y ffoadur gipiwyd megys o safn angeu i gario'r newydd prudd dros gymaint paith; mae'n llesg a gwan wedi'r dioddef dwys, ond nid oes neb yn gwybod y ffordd ond efe, ac O! fel y dyhea ei enaid am adenydd y wawr i estyn i'w gyfoedion ymwared a nodded. Mae'r fyddin fechan yn cael gwaith ei ddilyn,—ymlaen, ymlaen y teithia ddydd a nos, gan