Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

warafun colli munud i gymeryd ychydig luniaeth i nerthu ei wendid.

Bu syllu hir, distaw, ar yr agen ddofn—lydan a lamesid er achub bywyd, ac onibae fod ol traed y march ffyddlon yn ir ar y ddaear yn dweyd y stori fud, buasai'r ffaith yn anghredadwy, ond erys hyd heddyw ynghalon pawb a'i gwelodd fel rhywbeth goruwchnaturiol.

Bu raid teithio amgylch ogylch er osgoi'r hafnau a'r creigiau, a phob calon yn crynnu erbyn hyn, a phob dryll yn barod, canys yr oeddynt ynghanol gwlad y gelyn, ac o fewn ychydig lathenni i faes y gwaed.

Nid oedd ond distawrwydd yn teyrnasu ymhob man—dim awel yn lleddf—ganu drwy'r glaswellt rhonc deithid mor esmwyth a distaw gan y meirch blinedig. Pwy all ddychmygu ing meddwl yr arweinydd fel y cyflymai ymlaen gan syllu i bob cilfach, a rhyw belydryn o obaith yn mynnu aros yn ei galon o hyd: ond ha! gwelwch!—dacw'r corff lluniaidd, talgryf, ddioddefasai bethau anhygoel yn rhinwedd y gronyn gobaith hwnnw, yn dechreu siglo fel corsen ysig: torrodd y llinyn euraidd fuasai iddo ef fel seren Bethlehem, ac aeth yn nos.

Yr oedd dwylaw tyner, tosturiol, gylch y bachgen dewr ar amrantiad; ei law egwan amneidiai tua'r dde, a daeth ystyr y cyfnewidiad yn chwerw-eglur i'r fagad fechan o filwyr Cymreig syllent yn y fath arswyd mud ar yr olygfa dorcalonnus oedd o'u blaenau.

Yr oedd amryw o'r fintai yn hen gewri o ganol stormydd bywyd ereill yn ieuainc a'u bywyd fel yr haul, ond i'w clod y byddo'r coffa, fod y ddaear a ruddesid â