Gwnaeth pawb ei oreu i wneud yr orffwysfan yn glyd a destlus, ac i gasglu unrhyw eiddo personol adawyd gan y llofruddion fel ag i'w cyflwyno i berthnasau galarus y tri llanc llofruddiedig. Dringodd aml i fachgen hoew i ben y clogwyni cychynnol mewn gobaith y ceid cip ar rai o'r gelynion, a chyfle i ddial cam eu cydwladwyr; ond urig a distaw fel y bedd newydd islaw ydoedd; dim arwydd fod yna yr un creadur byw o fewn can' milltir iddynt.
Ymhen misoedd lawer y gwybuwyd fod yr holl gilfachau cylchynnol yn heigio o frodorion, yn barod i ladd a llarpio fel o'r blaen, ond fod y canu rhyfedd hwnnw ynghanol yr eangderau mawr distaw wedi eu dofi a'u llareiddio. Dywedir hefyd mai dyna'r pryd y deallasant mai Cymry oeddynt wedi ladd, ac nid milwyr Hispeinig, canys dillad milwrol oedd gan y llanciau druain, a brynasent gan y masnachwr, a bu galar aml i hen frodor yn ddidwyll ddigon am iddo ladd ei frodyr Cymreig mewn camgymeriad.
Beth bynnag am wiredd yr eglurhad yna, nid oes amheuaeth am effaith y canu; llithrodd y llu brodorion yn llechwraidd a distaw yn ol i'w llochesau yn y mynyddoedd heb gynnyg anelu saeth at y fintai islaw oedd yn hollol at eu trugaredd.
Digon prin y bu gan unrhyw gantorion erioed wrandawyr mor astud a synedig. Beth yw'r cyfaredd sydd mewn canu, tybed, o ddyddiau Saul hyd yn awr? Pam y dofodd yr anifail ymhob calon, ac y trodd y tân digofus fflachiai o bob llygad yn ddagrau gloewon ar y gruddiau melynddu?