Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

Y FFRWD GYNTAF

 ID dyddorol fyddai dilyn y teithiau o ddydd i ddydd; felly, ni a wibdeithiwn nes cyrraedd o honom i'r mynyddoedd. Ar y Saboth yn unig y caffai dyn ac anifail gyfle i orffwys; canys ni theithiem ar y diwrnod hwnnw oni bae fod rhyw angen mawr. Ond nid gorffwys i gyd fyddai rhan y merched, canys dyma ein diwrnod pobi! Eithr na. chyhoeddwch hyn yn Gath. "A sut mae pobi ar y paith?" meddech. A oes rhai o foneddigesau Cymru. hoffent wybod, tybed? Rhag ofn fod, gwell rhoi rhyw led amcan, ond rhaid dod i Batagonia i ddysgu yn iawn. Gwneir twll hirgul yn y ddaear, heb fod yn ddyfn iawn, a llenwir â thanwydd,-bydded hysbys fod eisieu bod yn hael gyda'r tanwydd, yna, wedi llosgi o'r coed yn farwor, tynner ychydig o'r naill du, a doder y sospan, yn yr hon y mae'r dorth, ar y ddaear boeth, ac wedi gofalu fod y clawr