Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddiogel, rhodder y marwor arno, ac ymhen yr awr bydd gennych gystal torth ag a graswyd yn Llundain erioed.

Wedi gorffen pobi bydd y prynhawn gennym i gynnal Ysgol Sul, a chanu rhai o'n hoff emynnau, a bydd hwyl iawn ar rai o'r cyfarfodydd hyn.

Mae gennyf gof byw am y ffrwd gyntaf welsom ar y daith. Nid oedd fy nghyfeilles ieuanc erioed wedi gweled ffrwd. Un o blant y Wladfa oedd hi, a hon oedd ei thaith gyntaf oddiar aelwyd yr hen gartref, ac nid oes yn Nyffryn y Gamwy ffrydiau na tharddiadau. Teithiem ni ymlaenaf o bawb y diwrnod hwn, a mawr oedd ein disgwyl am y ffrwd addewsid i ni y bore wrth gychwyn o'r gwersyll. Wrth ddringo i fyny tuag ati y caem yr olwg olaf ar afon y Gamwy, hyd oni ddychwelem. Gormod o demtasiwn oedd peidio troi pennau'r meirch er mwyn cael un olwg arall arni,—ymdroellai ac ymddolennai yn. wir deilwng o'i henw. Dywedid wrthym hefyd mai dyma fuasai ein golwg olaf ar yr helyg wylofus, hen gyfeillion ein mebyd; coffa da fel y byddai gweled un o honynt mewn rhyw ddyffryn tawel yng Nghymru yn codi hiraeth lond fy nghalon nes y byddai raid i minnau weithiau blygu pen mor wylaidd a'r helygen. Ond dyna, yr oedd yn dda gennym ein bod ein hunain y diwrnod hwnnw, ac nad oedd raidi ni siarad llawer.

Ymlaen i ddotio at y ffrwd, ac i leddfu'n hiraeth ym miwsig ei dyfroedd. Un fechan fach oedd, ond mor loew a'r grisial. Rhaid oedd i'm cyfeilles gael disgyn ar unwaith i brofi y fath ddyfroedd peraidd yr olwg arnynt. Yr oeddym yn awyddus i weled tarddiad y ffrwd; felly,