haul yn codi nes gwneud un enfys ogoneddus o'r gadwen fynyddoedd.
Yr olwg gyntaf ar gopa Mynydd Edwyn,-y gwynt yn chwythu gyda holl ffyrnigrwydd ei allu aruthrol, y cymylau duon bygythiol fel pe'n ymlid yr haul i'w orffwysfa. Ond dacw'r haul yn cyrraedd y copa gwyn ac yn disgyn fel mantell o aur ; ac er ein bod yn teithio dros ucheldir ysgythrog, a gwynt yr ia oesol bron parlysu faed dyn ac anifail, eto mor ofnadwy ac mor ogoneddus oedd yr olygfa nes yr oedd pob teimlad corfforol yn diflannu, a'r enaid yn gwibio mewn rhyw ddyhead dwys at droed y mynydd mewn addoliad mud. Mor naturiol i'r hen. írodorion syml addoli'r haul onide, a hwythau yn arfer ei weled o'u mebyd fel y gwelais i ef am y tro cyntaf. Gelwir yr hen Indiaid yn baganiaid, ac eto pan ddel llewyrch y wawr ar y mynyddoedd gwyn, bydd y pen- aethiaid yn cyrchu at y ffrwd agosaf atynt ac yn codi y dwfr grisialaidd yn eu dwylaw gan ei wasgar yng nghyf- eiriad codiad haul, a gofyn i'r Ysbryd Da lwyddo eu dydd. Gwyn fyd na fyddai mwy o honom yn baganiaid yn yr ystyr yna, onide? A fyddwn ni yn gofyn am fendith ar doriad gwawr pob dydd newydd?
Yr un dydd ag y gwelais y mynyddoedd, daethom at wersyllfa o Indiaid, a'u pennaeth yn hen wr triugain oed, ond ei wallt yn ddu a'i gorff yn dalgryf a syth fel dyn yn anterth ei nerth. Pan gyraeddasom y gwersyll cyfarchwyd ni yn drystfawr gan ugeiniau o blant bach yng ngwisg natur, a chwn dirifedi o bob lliw a llun. Arweiniwyd ni i mewn gan fab y pennaeth a fuasai yn aros yn fy nghartref ychydig fisoedd cynt. Eisteddai'r