Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen frodor yn ei babell ar groen ceffyl, yn sipian mate. O'i gylch yr oedd amryw o'r "chinas" (y merched) yn prysur wnio crwyn a nyddu gwlan y guanaco. Cawsom ninnau le i swatio yn ymyl yr hen bernaeth, a phan ddywedais wrtho pwy oeddwn, fy mod yn ferch i Don Luis, cododd ar ei draed i ysgwyd llaw â mi gan ddweyd—Os wyt ti yn ferch i Don Luis, yna ein chwaer ni wyt ti, canys y mae efe yn frawd i ni oll." Balchach oeddwn o deyrnged yr hen frodor syml i'm tad na phe rhoisid iddo ffafrau tywysogion mwyaf y byd. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear." Cymerodd Archentina y cledd a'r milwr i wareiddio Indiaid Patagonia; daeth dyrnaid o Gymry o gilfachau mynyddoedd Gwalia i ddysgu dull arall o wareiddio. Yr oedd yng ngeiriau'r hen Indiad "paganaidd" wers fawr ag y mae'r byd Cristionogol heb ei dysgu eto. Wrth ymgomio yn y babell, daeth y gair "Cristianos" i mewn, a gofynnais iddo pwy feddyliai wrth y "Cristianos" hyn.

"Yr Hispaeniaid," meddai.

"Eithr onid ydym ninnau hefyd yn Cristianos?" meddwn.

"O, na, amigos de los Indios (cyfeillion yr Indiaid) ydych chwi."

Rhyw deimlad rhyfedd ddaeth trosom wrth glywed ateb yr hen frodor. Mor chwith meddwl fod y gair fu gynt mor gysegredig a santaidd wedi ei gyplu yng nghalon y pagan â phob creulonderau a barbareiddiwch.