Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sy'n hoff o hanes y pell a'r dieithr. Bu i mi fel helyntion Robinson Crusoe i blant Cymru, a theimlaf yn sicr pe ceid cyficithiad Cymraeg o lyfr Musters y byddai yn gymaint ffefryn ag y bu stori Defoe erioed.

Ar ol dyfodiad yr Hispaeniaid i Dde America (1560) y gwybu'r brodorion ddim am geffylau. Crwydro ar draed y byddent cyn hynny, ac y mae eu hen wersylloedd a'u celli yn efrydiaeth ddyddorol i'r hynafieithydd. Mae'n debyg mai eu cyrchfarnau pennaf oedd y rhanbarthau tyfiannus gyda godrau'r Andes; ond gan fod yr hinsawdd yno a'r gweryd yn lleithach, nid hawdd yn awr taro ar eu holion. Yr Arawcanod yn bernaf breswylient y rhannau mynyddig, gan erlid yr hen Tehuelches rhwth tua'r de a'r dwyrain, y man y mae tiriogaeth y Gamwy heddyw. Oddiwrth y gweddillion geir yno, a'r traddodiadau yn eu mysg pan seiliwyd y Wladfa, gellid casglu mai arfau cerryg a challestr a arferent; mai pysg a chregyn oedd eu cynhaliaeth pan yn y cyrraedd; fod cyfnod wedi bod arnynt. pan y claddent eu meirw, a chyfnod arall pan y llosgent hwynt, ac mewn mannau cerrygog mai dodi carneddi arnynt wneid. Lle y mae hen gladdfeydd heb fod yn dra henafol, y mae hyd yn awr bentyrrau o sglodion callestr, pennau saethau, pernau tryferi, a gweddillion llestri pridd amrwd, ond addurnol; ceir hefyd fwyeill cerryg, a morteri a phestlau.

Mae ar y ffarm yn fy hen gartref un o'r claddfeydd dyddorol hyn, a threulid oriau dedwydd gennym ni, blant yr ardal, ar ein ffordd i'r ysgol, yn chwilota am greiriau yn yr hen drysorfa frodorol. Blin iawn gennyf erbyn. heddyw na fuaswn wedi bod yn llawer mwy dyfal gyda'r