Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaith, yn lle gadael i naturiaethwyr gwledydd ereill ysbeilio yr hyn a berthynnai yn gyfreithlon i amgueddfa y Wladfa Gymreig. Pan ddeffroais i werth hanesyddol yr hyn oedd megys ar drothwy fy nghartref, yr oedd y pethau gwerthfawrocaf wedi eu cludo ymaith i amgueddía Buenos Aires.

Beth oedd diben yr holl bridd-lestri tybed? Ai llestri lludw y meirw oeddynt, ynte llestri offrymau i'r meirw, yn ol defodau dwy neu dair canrif yn ol ? Claddent eu meirw yn eu heistedd, gan ddodi yn y bedd gyda hwy, eu celfi mwyaf prisiadwy, a pheth bwyd a diod; yna lladdent geffylau a chŵn y marw; gwleddent ar gig y ceffylau a'r cesyg; llosgent ddillad ac addurniadau y marw; torrai y menywod eu hwynebau nes gwaedu a bacddu, ac oernadent alar mawr.

Pam y dodir y bwyd a'r celfi yn y bedd? "Bydd ein brawd yn teithio'n bell, drwy wlad dywell ac unig, a bydd arno newyn a syched cyn cyrraedd glan yr afon fawr,— ac wedi croesi, bydd angen yr holl gelfi i ail-ddechren byw mewn gwlad o lawnder dihysbydd." Amlwg yw fod ganddynt ryw ddrychfeddwl am arall fyd, a rhyw obaith cael ail-gwrdd maes o law. Prif syniad yr hen Indiad am nefoedd yw, gwlad lle nad yw'r game byth yn brin. Mae wedi crwydro'r anialdiroedd mawr ar hyd ei fywyd i chwilio am gigfwyd (ei unig ymborth), ac wedi gorfod mynd yn newynnog ganwaith o herwydd prinder.

Cof gennyf pan yn blentyn fod yna frodor yn marw mewn pabell gerllaw fy nghartref. Yr oeddym ni wedi gwneud yr hyn a allem drosto yn ol ein gwybodaeth, a hwythau'r hen Indiaid wedi gwneud a allent i yrru'r