Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byddai ambell bennaeth yn gadael rhai o'r plant ar ol yng ngofal teulu Cymreig er mwyn iddynt fynd i'r ysgol, a buan y deuai'r crots i siarad Cymraeg rhugl; mewn llaw ysgrif nid oedd neb a'u curai: yr oedd eu dwylaw mor ystwyth, a'u hamynedd fel y môr.

Bu un o honynt—y Pennaeth Kengel erbyn heddyw—a minnau yn cydefrydu wrth yr un ddesg am flwyddyn, a buom yn helpu'r naill y llall lawer gwaith. Nid yw wedi anghofio ei Gymraeg hyd heddyw, a phan ddel ar ymweliad â'r Wladfa o dro i dro, o'i gartref pell, mynyddig, bydd croeso cynnes, siriol, iddo ymhob cartref gwladfaol.

Byddai tymhorau neilltuol gan y brodorion i ddod i lawr i'r sefydliad i farchnata; deuent yn llu banerog, gant neu ddau gyda'u gilydd; cannoedd o geffylau, cannoedd o gŵn, ugeiniau o blant bach wedi eu pacio mewn cewyll gwiail, un bob ochr i'r fam, ar y ceffylau rhadlon, y pebyll, a'r pyst, a'r nwyddau gwerthadwy yn bynnau mawrion ar y ceffylau gedwid yn arbennig at y gwaith hwnnw; a'r helwyr ar eu meirch chwim, bywiog; prif uchelgais llanciau Indiaidd yw cael gyr da o geffylau hela, a'r gêr wedi eu plethu'n gelfydd—gywrain, a'u haddurno â modrwyau arian.

Wedi cyrraedd, byddent yn dewis y mannau addasaf i wersyllu, ac yna deuai negesydd oddiwrth y pennaeth at y ffermwr yn awgrymu y buasent yn hoffi cael gosod eu pebyll ar ei ffarm, ac ni fyddai byth unrhyw wrthwynebiad.

Gwaith y chinas, neu'r merched, fyddai dadlwytho a gosod y pebyll i fyny, cynneu tân a gwneud bwyd; a'r llu