Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu bywyd crwydrol: ymdrochant yn ddyddiol, a chan fod eu holl wisgoedd yn gynwysedig mewn mantell groen seml, nid oes angen golchi na thrwsio; y fath wynfyd fuasai hynny i aml deulues drafferthus yn y dyddiau hyn.

Mae'r brodorion yn foesgar a gwylaidd ymysg estroniaid. Mae eu tân a'u bwyd yn rhydd i bawb a ddel, eithr gwae'r teithiwr hwnnw ddigwyddo amharchu'r croesaw.

Nid oes unrhyw awydd yn y brodorion i efelychu gwareiddiad; os byddant yn synnu neu ryfeddu at unrhyw beth, nid ydynt byth yn dangos hynny; mae wyneb Indiad yn hollol anarllenadwy.

Mae yna ryw ddieithrwch, rhyw gyfaredd, yn y wlad a'i phobl, pan eler i ddwys fyfyrio eu hanes. Ymhob gwlad arall, hyd yn ced mewn coedwigoedd tewfrig, ceir olion ac adfeilion hen ddinasoedd, lle y bu rhyw genhedloedd o'r hen oesoedd yn byw ac yn ffynnu, ond ym Mhatagonia, gyda'i harwynebedd o 300,000 o filltiroedd ysgwar, ni cheir maen ar faen. Ond er fcd gwledydd ereill yn hen, mae Patagonia yn hŷn. Mae'r llwythi crwydrol wedi bod yn cyniwair drwy'r pampa tawel er ys canrifoedd, a'r glaswellt yn tyfu dros olion tân eu gwersylloedd, ond byth yn newid nac yn nodi unrhyw ran o'u hen wlad; na, er fod Patagonia ar un ystyr yr hynaf o'r gwledydd—canys yma deuwn wyneb-yn-wyneb â'r amser cyn-hanesiol, ysgerbydau y bwystfiled mwyaf, ac eirf callestr y dyn cyntefig, heb ddim ond y blynyddoedd cydrhyngddynt, cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth wedi tyfu ar fynwes natur, heb ddim i nodi eu haml bererindodau ord y mân lwybrau