Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan ddechreuodd y Llywodraeth Ariannin erlid yr hen frodorion yn 1880, bu'r Wladfa yn eiriol trostynt dro ar ol tro, eithr hollol ofer fu pob ymgais i lareiddio dedfryd haearnaidd y llywodraethwyr; lladdwyd cannoedd yn y rhyfel anghyfiawr, anghyfartal; awd a channoedd ereill yn garcharorion i brifddinas Buenos Aires,a rhannwyd hwy rhwng mawrion y wlad fel caethion! A phed ysgrifennid hanes y teithio tros y môr garw mewn llongau bychain caethiwus, a'r creulonderau gyflawnwyd, a'r golygfeydd ar ddec y llongau ym mhorthladd y ddinas pan wahenid y plentyn sugno oddiwrth fron ei fam, i fod yn degan mewn rhyw balas gwych lle'r oedd pechod a moethau wedi lladd yr enaid, ac y cipid y bychan llygatddu, gydiai mor dyn yn llaw ei dad, gan ryw goegyn i'w roi ar flaen ei gerbyd o fewn cyrraedd hwylus ei chwip,—gwenai'r ddinas mewn dirmyg wrth ben y syniad fod gwr a gwraig frodorol yn caru ei gilydd, ac fod yn well ganddynt ddyfrllyd fedd dros ganllaw'r llong na chael eu gwahanu, —ped ysgrifennid ond y ganfed ran o'r pethau hyn, byddai yna "Gaban F'ewyrth Twm" yn Ne America hefyd; eithr ysywaeth nid oes eto un i'w ysgrifennu.

Yn y cyfwng hwn yn hanes yr Indiaid, ysgrifennai aml i hen bennaeth adfydus at fy nhad, fel yr un eiriolasai trostynt fwyaf o bawb, i ddweyd ei gwyn a gofyn am gyngor; ac fel engraifft o'r ysbryd mawrfrydig heddychol feddiannai'r hen Indiaid yn wyneb helyntion mor alaethus, dodwn yma gopi o lythyr y Pennaeth Saihueque, hen gawr tywysogaidd yr olwg arno, ac er yn agos i 70 mlwydd oed, sydd a'i wallt fel y nos, a'i ddannedd fel yr ifori, a'i gorff fel derwen y mynydd:—