"Daeth i'm llaw eich nodyn gwerthfawr. Yr wyf yn trysori gyda hyfrydwch y cynghorion a'r hanesion a roddwch i'm llwyth i fod yn heddychol gyda'r Llywodraeth a chyda chwithan. Gyfaill, dywedaf wrthych yn onest na thorrais i yr heddwch a'r ewyllys da sydd rhyngof a'r Llywodraeth yn awr er's rhagor nag ugain mlynedd, ac ddarfod i mi gyfiawni fy holl ymrwymiadau wnaethwn yn Patagones yn ffyddlon. Eithr ni allwch chwi byth, fy nghyfaill, amgyffred y dioddefaint dychrynllyd gefais i a fy mhobl oddiar law yr erlidwyr. * * Daethant yn lladradaidd ac arfog i'm pebyll trigiannu, fel pe buaswn i elyn a lleiddiad. Mae gennyf fi ymrwymion difrifol gyda'r Llywodraeth er ys hir amser, ac felly ni allaswn ymladd nac ymryson gyda'r byddinoedd, a chan hynny ciliais o'r neilltu gyda'm llwyth a'm pebyll, gan geisio felly osgoi aberthau a thrueni, yn yr hyn y llwyddais am beth amser o leiaf. Nid wyf fi anwrol, fy nghyfaill, ond yn parchu fy ymrwymiadau gyda'r Llywodraeth, ac ar yr un pryd feithrin yn ffyddlon y ddysgeidiaeth a'r gofalon roddodd fy nhad enwog—sef y prif bennaeth Chocari—i beidio byth a gwneud niweidiau nac amharu y gweiniaid, eithr eu caru a'u parchu yn ddynol. Er hyn oll, yr wyf yn fy nghael fy hun yn awr wedi fy nifetha a fy aberthu,—fy nhiroedd, a adawsai fy nhadau a Duw i mi, wedi eu dwyn oddiarnaf, yn gystal a'm holl anifeiliaid, hyd i hanner can' mil o bennau. Oblegyd hyn, gyfaill, yr wyf yn gofyn i chwi roddi gerbron y Llywodraeth fy nghwynion yn llawn, a'r trallodion wyf wedi ddioddef. Nid wyf fi droseddwr o ddim, eithr uchelwr brodorol, ac o raid yn berchennog y pethau hyn. Nid dieithryn o wlad arall, ond wedi fy magu ar y tir. Oblegyd hynny ni allaf ddirnad y trueni sydd wedi disgyn arnaf drwy ewyllys Duw, ond gobeithiaf y gwel Efe yn dda fy neall o'i uchelderau, a fy amddiffyn. Ni wneuthum i erioed ruthr—gyrchoedd, fy nghyfaill, na lladd neb, na chymeryd carcharorion, a chan hynny erfyniaf arnoch gyfryngu droswyf gyda'r awdurdodau, i ddiogelu heddwch a thangnefedd ein pobl.
"Gobeithiaf ryw ddiwrnod gael ymgom gyda chwi, a gwneud rhyw drefniad cyfeillgar rhwng eich pobl chwi a'm pobl i. Hyn trwy orchymyn y Llywodraeth Frodorol,
"VALENTIN SAIHUEQUE."