Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VIII.

CYRRAEDD TECA

 HAGFYR 12fed.—Cyrraedd Teca, o fewn deuddydd i ben ein taith. Dyffryn cul porfaog, a'r afon Teca mewn gwely of racan mân yn prysur rhedeg tua'i harllwysiad gyda'i dwfr o risial yr ia oesol. Yma y cawsom ni olwg agos ar fawredd y mynyddoedd gyda'u llethrau coediog bytholwyrdd. Er ei bod yn ganol haf, yr oedd y mynyddoedd yn wyn a'r gwynt yn oer gethin; yr oeddym wedi teithio drwy'r dydd yn ei ddannedd, ac yn cyrraedd Teca tua machlud haul yn oer a blinedig. Yr oedd yno fasnachdy bychan gan Eidalwr, a chafodd Mair a minnau addewid o loches dan y counter dros nos, a lloches glyd oedd hefyd: yr oedd yno ddigonedd o grwyn pob anifail gwyllt o fewn y mynyddoedd, a tho diddos i gadw allan fin y gwynt. Cawson noson ardderchog, ac 01 yr oedd haul y bore