Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ser bob tro y deffrown, ac nid oedd fy nghyfeilles a minnau yn cysgu hanner cystal, nac yn deffro yn y bore fel ehedydd yn barod i ganu o wir lawenydd calon. Ond yr oeddym ar frys i gychwyn y bore arbennig hwn, canys onid dyma ddiwrnod olaf y daith? Byddem wedi cyrraedd Bro Hydref cyn machludo o'r haul, y sefydliad bychan Cymreig sy megys yn nythu o dan gysgod yr Andes wen.

Ond os oedd mur i fynd i lawr ddoe, yr oedd yna fur i fynd i fyny heddyw; dringo fel ceirw chwim yr Andes, a diau mai eu llwybrau hwy fu'n foddion i ddangos y ffordd i'r teithwyr cyntaf. Yr oedd perygl bod rhwng dwy glust y ceffyl ddoe, ond dyna'r unig fan diogel heddyw. Ond yr oedd pob mynydd a phant yn ein dwyn yn nes i ben y daith, ac felly yr oedd pob blinder a pherygl yn diflannu yn y dyhead am weled wynebau hen gyfeillion mebyd, a'r bythynnod coed a'r to gwellt y clywsem gymaint o son am danynt.

Er fod y mynyddoedd yn wyn, eto, wedi cyrraedd y gwastadedd, yr oedd yr hin yn hafaidd, a ninnau yn ei fwynhau yn fwy oherwydd yr adgof am wynt rhewllyd y Teca. Fel yr ymdeithiem ymlaen yn araf deuai rhai o'r bythynnod i'r golwg, ond ymhell oddiwrth eu gilydd, ryw dair llech cydrhyngddynt. Dechreuai ein harweinydd eu nodi allan. "Dacw'r Garreg Lwyd a'r Mynydd Llwyd y naill ochr iddo, a'r coed pinwydd yn harddu ei fron, doldir hyfryd o flaen y bwthyn, gyda nant loew, loew,— draw gwelwch y Parc Unig yn llechu yn ei fedwlwyn; mae'r pistyll sy'n disychedu trigolion y bwthyn acw yn un o'r rhai hyfrytaf yn y fro." Ond ymhell cyn dod i olwg