Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/81

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

afon, mynd oeddwn innau hefyd fel nad aethwn erioed o'r blaen. Ynte'r dwfr oedd yn mynd? Barned y darllenydd.

Yr oedd ein ffordd yn mynd drwy'r coed yn awr, coed pinwydd, coed bedw, banadl, drain gwynion, a llu o rai dieithr nad oes ond enwau Hispeinig arnynt. Yr oedd y cwmni yn llawen, ond gwell fuasai gennyf deithio mewn -distawrwydd: yr oedd arswyd y mynyddoedd mawr arnaf, O mor druenus fychan oeddym, a dyma natur fel y daeth o law y Crewr cyn ei "gwella " gan ddynoliaeth eiddil, afiach. Buaswn yn hoffi rhoddi pwys fy mhen ar y ddaear werddlas gan sisial, "Pechais, nid wyf fi deilwng." Clywais lawer pregeth ar ostyngeiddrwydd a gwyleidd-dra, ond dyma bregeth! O na fuasai gennyf ysgrifbin o aur wedi ei wlychu yng ngwlith y wawr i ysgrifennu cenadwri natur at ei phlant. Mae ei llais mor ddistaw-dyner, mae ei dagrau ar bob deilen werdd, a'i miwsig lleddf, swynol, ymhob ffrydlif risialog.

Mawr y son am emynwyr Cymru: dowch gyda mi i'r Andes, dyma emynwyr y nef, fyrddiynnau ar fyrddiyn- nau o honynt,-beth maent yn ddweyd? Ah! dyna eu cyfrinach-"Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi." Y pur o galon a welant Dduw." "Yr addfwyn a eti- feddant y ddaear." Dyma'r gynulleidfa sy'n gwrando ar y Côr Mawr yn mynd trwy'r prif ddarn.