Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tua naw o'r gloch gwelwyd yr hen Feibl mawr yn cael ei ddodi ar y ford, a'r plant bach yn crynhoi gylch yr aelwyd. Mor syml a dirodres y gwneid hyn fel nad oedd dor ar yr ymddiddan, ond wedi gorffen y sgwrs, dyma gör yr aelwyd yn dechreu canu. Nid oedd yno neb ond y fechan hunai ym mynwes ei mam nad oedd. yn canu, y lleisiau bychain pur yn codi yn un anthem o orfoledd. Byddaf yn credu bob amser fod ar Satan fwy o ofn plant bach yn canu hanes Iesu na dim. Gwelais ymwelwyr yn gorfod mynd allan o'r bwthyn wrth droed yr Orsedd pan fyddai ei genhadon bychain ef yn canu eu "Nos Da." Wedi'r canu, caem y darllen, a sylwais mor fanwl fyddai y dewisiad, rhywbeth i nerthu a chalonogi bob amser. Ac yna, caem oll gyd-addoli, cyd-ddiolch am nodded y dydd, a chyd-erfyn am nodded y nos. Yr oeddwn wedi clywed son am aelwydydd fel hyn yng Nghymru lân, ond ni ddaeth i'm ffawd weled yr un, hyd nes teithio i eithafoedd y ddaear at Droed yr Orsedd, a bydd yn yr enw ystyr cysegredig i mi hyd ddiwedd oes.

Yr oedd fy nghyfeillion yn awyddus am i mi orffwys ychydig cyn dechreu teithio i weld y wlad oddiamgylch. Ond yr oedd y cylchynion hyfryd a'r awel iachus wedi'm llanw a'r fath nwyf ac yni fel na allwn fod yn llonydd pe mynnwn. Y peth cyntaf welwn drwy ffenestr fy ystafell bob bore oedd y Mynydd Llwyd, a'i gopa gwyn ym myd y cymylau. Yr oedd yn demtasiwn ac yn swyn anorchfygol i mi, a rhaid oedd ffurfio cwmni i ddringo i'w ben. Nid oedd 'ond un person wedi bod fan honno erioed, a bygythid pethau mawr arnom am ein rhyfyg. Cychwyn wnaethom ar ddiwrnod tawel, hafaidd, ar