Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

geffylau, fel pob Patagonwr; yr oedd gennym daith bell cyn dod at lethr y mynydd, a chodi bwganod oedd gwaith y cwmni ar hyd y ffordd. Ond wedi dechreu dringo, yr oedd gan bawb ddigon o waith, edrych ar ei ol ei hun a'i ysgrublyn truan Bu dadl fawr wrth droed y mynydd. Yr oedd ar rai eisieu gadael y ceffylau fan honno, a'i throedio i fyny.

"Wfft i shwd ddwli," ebai bechgyn glew y paith, beth mae'r ceffylau dda?"

Ond yn wir, yn wir, rhyngoch chwi a minnau buasai'n well gennyf ei throedio o lawer; yr oedd gweled yr hen geffylau yn ymladd am eu hanadl ac yn syrthio bendramwnwgl ar draws y cerryg yn boenus i'r eithaf. Ond fry, fry, yr aem o hyd, a min yr awel i'w deimlo yn fwy o hyd. O'r diwedd, daethom i le na allai yr un ceffyl ei basio, ac felly cefais yr hyfrydwch o'u gweled yn gorffwys, tra ninnau yn pelo'n mlaen yn nannedd y gwynt oedd eisoes yn chwythu bygythion.

Wrth son am fynydd, mae dyn yn meddwl am graig gadarn o dan draed o hyd, ond dyma fynydd na saif yn llonydd yr un funud-mynydd anferth o gerryg mân, a dywed Darwin yn ei nodiadau ar Batagonia mai effaith yr ia oesol ar y graig yw hyn, a rhyfedd meddwl fod yr eira distaw yn gallu gwneud y fath waith aruthrol.

Wrth fod y mynydd yn rhoi ffordd o dan ein traed, yr oedd teithio yn waith anawdd ac araf iawn, ac yr oedd y gwynt erbyn hyn yn anterth ei gynddaredd, a hwnnw mor rhewllyd nes yr oedd perygl i ni gael ein parlysu gan yr oerfel, a'r awyr mor fain yn yr uchder ofnadwy nes mai trwy boen dirfawr y gellid anadlu. Ond yr oedd