Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/91

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X.

DILYN YR AFON.

 REDAF fod trigolion Troed yr Orsedd braidd yn synnu fy ngweled yn cyrraedd adref a'm hesgyrn yn gyfain, a bu y ffaith i mi gyrraedd yn fyw yn help i mi ffurfio cwmni arall i wneud taith i lawr yr afor Caranlewfw (afon las). Hon yw'r afon fwyaf yn y cylchynion, ac yr oeddwn wedi clywed llawer am ramantedd a mawredd ei golygfeydd gan yr unig un fuasai yn troedio ei llwybrau dyrus-Percy Wharton, un o sefydlwyr cyntaf y Fro, a'r mwyaf egniol a gweithgar, yn Gymro pur er gwaethaf ei enw, ac yn delynor gwych,-rhyfedd oedd gweled yr hen delyn swynol yn y caban coed wrth odreu'r Andes.

Ar y daith hon yr oeddym yn chwech mewn nifer, pedair o wyryfon, yr arweinydd Percy, a Brychan. Cychwynnem gyda thoriad gwawr, gan gymeryd gyda ni ddigon o luniaeth am un byrbryd. Ni allasom fyned food