Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymhell ar ein ceffylau o herwydd y coedwigoedd anferth a'n cylchynnai ymhob cyfeiriad, ac yr oedd arnom ninnau eisieu dilyn yr afon er mwyn gweled y rapids. Mewn rhyw gwmwd bychan porfaog gwnaethom ein ceffylau yn iddiogel, a chychwynasom ar y daith oedd i fod yn fythgofiadwy inni mwy. Gwaith anawdd ac araf iawn oedd teithio o herwydd y drysni; gallesid meddwl yn aml mai rhai o bedwar carnolior y ddaear oeddym, gan fel y teithiem ar draed a dwylaw dros lawer llecyn dyrus. I chwanegu at ein llafur, yr oedd yn ddiwrnod hafaidd iawn: yr oedd y coed yn cysgodi'r haul mae'n wir, ond yr oeddynt yn cysgodi'r gwynt hefyd, fel na chaem yr un awel i'n hadfywio.

Wedi teithio am rai oriau fel hyn, clywem lais Percy ymlaen yn traethu newyddion da," Mae'r rapids gerllaw." Ust, gadewch i ni wrando: rhyw swn rhyfedd yw hwn, fel storm o wynt cryf yn dyfod drwy'r goedwig, a tharanau'r nef yn chwyddo'r twrf; ond dyma'r afon, a fry gwelwch,—ie, beth welwn, wir? Mae arnaf eisieu taflu'm harfau i lawr fan hyn a—ffoi? Nage, byddwn foddlon cerdded mil o filltiroedd i gwrdd y fath allu â hwn. Ond pa fodd y mae dweyd yr hanes, ddarllenydd mwyn? Pe buasai gennyf ysgrifbin a chyfoeth geiriau y naturiaethwr hyglod o Lanarmon yn Ial, buasai gobaith i chwi gael desgrifiad cywir o'r olygfa ogoneddus y safem yn fud o'i blaen. Pe buasai gennym eiriau i'w dweyd, amhoisbl fuasai clywed dim. Yr oedd natur ym mawredd ei brenhiniaeth yn teyrnasu, ac nid oedd i ni, bethau bychain, eiddil, ond plygu pen yn wylaidd mewn arswyd. ac edmygedd mud.