Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yno balmant o graig anferth bron wrth ben y rapids, a phenderfynwyd dringo i'r fan honno i orffwys a mwynhau. Disgynnai'r dwfr o uchder aruthrol. Yr oedd yr haul yn tywynnu arno hefyd, a pha arlunydd yn y byd allasai ddweyd beth oedd lliw'r dwfr hwnnw? Yr oeddwn i yn meddwl am enfys wedi troi'n ddwfr, ac yn disgyn ar cin daear yn ei liwiau o wawl y nef. Ond nid oedd natur yn foddlon ar y dwr yn unig yn ei darlun, plannodd ddwy goeden fuschia un bob ochr i'r rapids. Gwnaeth iddynt dyfu fel coed derw Gwyllt Walia. Yr oedd greddf y pren yn ei dynnu tua'r dyfroedd, yn plygu, plygu, nes cusanu'r ewyn gwyn llachar. Daeth y blodau ar lun clychau'r nef, neu ynte a fu yma lu o seraffiaid yn hofran uwch ben, â'u calon mor llawn wrth weled tlysni ei greadigaeth Ef nes disgyn o'u dagrau fel perlau rhwng gwyrdd-ddail y pren. Ond rhaid tewi. 'Rwy'n gweled natur yn gwgu mewn dirmyg wrth ben fy ngeiriau gwael. Maddeu, frenhines dirion, a thywys fi yn ol dy droed.

Er mor anawdd oedd ymysgwyd o'r pêrlewyg yma, rhaid oedd cychwyn eto os am weled ychwaneg o ryfeddodau'r afon fawr hon. Yr oedd y golygfeydd o'n cwmpas yn cynyddu yn eu rhamantedd, mynyddoedd gwynion yn ymgodi ris ar ol gris nes ymgolli o honynt yn y cymylau.

Wrth deithio drwy'r dyrus lwybr, daethom at enau ogof helaeth. Gan fod y gwres mor arteithiol, meddyliem mai melus fyddai lloches yr ogof am ennyd. Erbyn cyrraedd i'r gwaelod, yr oeddym yn dechreu crynnu gan yr oerfel. Yr oedd llawr yr ogof yn orchuddiedig â rhedyn hyfryd, mân, mân ei ddail: muriau'r ogof fel pe wedi eu gorchuddio à gemau gan fel y disgleiriai clychau'r