Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Troi'n ol i wynebu y drysni a'r rhwystrau i gyd eto,— dyna oedd yn tynnu'r melusder a'r swyn o'r daith. Ond yr oedd yn rhaid mynd drwyddynt, ac yr oedd ein harweinydd yn dechreu pryderu pa un a allem gyrraedd ein ceffylau cyn y nos. A chywir oedd ei ofn. Mor flinedig oeddym fel y penderfynwyd lawer gwaith orwedd i lawr man yr oeddym hyd y bore. Ond yr oeddym yn rhy newynnog i gysgu, gan ein bod wedi gwneud camgymeriad difrifol yn hyd y daith wrth ddarpar y lluniaeth. Yr oeddym wedi cychwyn er toriad dydd, yr oedd yn awr yn hwyr o'r nos, a ninnau yn dal i deithio yng ngoleu'r ser drwy anawsderau fil. A theithio y buom hyd doriad gwawr drannoeth. Yr oedd fy nghyfeillesau 'ieuainc yn anghynefin â cherdded,—plant y Wladfa oeddynt, heb arfer dringo a theithio hen gymoedd a mynyddoedd Gwyllt Walia. O'm rhan fy hunan, buaswn yn hoffi rhoi pwys fy mhen ar ryw hen foncyff orffwysai yn ei wely mwswgl, a disgwyl am heulwen y bore. Cefais dreulio noson felly wedi hyn pan gollasom y ffordd ar y mynydd, ac y bu raid i mi, ar ol crwydro oriau, wneud tanllwyth o dân, a gorffwys ym mreichiau natur. Ni fu mam mor dyner erioed i suo ei phlant i gysgu—mae y ddaear mor werdd ac mor esmwyth, mae perarogl y cwrlid y fath nad oes apothecari yn y byd all ei efelychu, na thywysogion ei bwrcasu er maint eu cyfoeth.

Tra'm henaid yn gwibio fel hyn, yr oedd y babell frau yn poenus deithio tua Throed yr Orsedd. Weithiau'n cerdded, weithiau'n cropian, weithiau'n dringo fel geifr gwylltion, ond cyn prin ddadebru o'r wawr, drannoeth y cychwyniad, wele ben y daith—gorffwys a lluniaeth.