Prawfddarllenwyd y dudalen hon
"Y TYLWYTH TEG YN CYRRAEDD O GYFEIRIAD ARALL."
Ac fel y gorffennai ddweyd hyn wrtho ei hun, y mae'n codi i fyny, ac yn cychwyn cerdded at y goeden nesaf ato, ond cyn ei fod wedi rhoi eithaf tri cham y mae'n teimlo ei draed yn glynu yn y ddaear, ac nis gallai mewn modd yn y byd fynd yn ol nac ymlaen. Ni fu erioed yn y fath benbleth; er troi a chroesi a gwingo nes peri poen iddo ei hunan, nid oedd ronyn nes i symud modfedd. Gan nad oedd hyn yn tycio, penderfynodd sefyll yn llonydd a galw'n uchel ar Garadog, a galw y bu ar uchaf ei lais, ond nid oedd neb yn ei ateb. Yr