Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd distawrwydd y lle yn llethol. Pan ar dorri i wylo gan y braw a'r unigrwydd, tybiodd ei fod yn clywed rhyw sŵn o'r tu ol. Trodd ei ben, ac er llawenydd digymysg iddo, gwelai Dylwyth y ddwy gadwen yn ymwthio i'r golwg heibio bôn un o'r coed. Nid yw dweyd ei fod wedi edrych yn syn pan welodd Hywel ond ffordd eiddil iawn o'i ddisgrifio. Mewn gwirionedd yr oedd am foment yn rhy syn i dorri gair, nac i symud. A Hywel yn erfyn arno am iddo ei helpu i ddod yn rhydd ac i ddefnyddio ei draed fel cynt. O'r diwedd y mae y teimlad o syndod yn ei adael a ffwrdd ag ef yn ol i rywle gan ddychwelyd ymhen eiliad neu ddau gyda llond ei ddwylaw o rywbeth tebig i fwsog, ond ei fod yn fwy sidanaidd, a chyda brys ac egni eithriadol y mae yn dechreu rhwbio traed Hywel, ac yn fuan iawn yr oedd yn gallu symud mor ysgafndroed ag erioed, a chynnes iawn oedd ei ddiolch am y fath waredigaeth. Ond nid oedd Tylwyth y ddwy gadwen fel pe'n gwrando ar ei eiriau, gymaint ei frys ydoedd am gael gofyn,—"Paham yr ydych chwi yn y fan hyn? Lle mae Caradog?"

Ac ebai Hywel,—

"Mae'n rhaid fod y Tylwyth Teg wedi camgymeryd, ac wedi mynd a Charadog dros y gamfa, a fy nghario innau i'r fan hyn."

"Dim o'r fath beth," ebai yntau, gan ysgwyd ei ben yn brudd, "dim o'r fath beth."

"Wel, os na wnaethant gamgymeriad," ebai Hywel, "feallai eu bod wedi gwneud hyn er mwyn cael tipyn o hwyl."

"Hywel, peidiwch byth a dweyd hynyna eto. Mynd o gwmpas i helpu rhai fel y chwi ydyw gwaith y Tylwyth Teg, ac nid i ychwanegu at eich rhwystrau."

"Rhaid, felly, mai chwi wnaeth gamgymeriad wrth ddweyd am y ddwy gadwen," ac fel y cofia Hywel am y cadwyni, gafaela yn ei gadwen, ac am y tro cyntaf er pan y rhoddai'r Tylwyth hi, ac y derbyniai Hywel hi, y mae y ddau yn edrych arni, a chyda'i gilydd bron y mae y dyn bychan gwyrdd yn dweyd,—"Dyma eglurhad ar y cwbl," a Hywel yn gofyn,—"Beth yw hyn? Cadwen Caradog yw hon; cadwen o rawn hirgrwn oedd gen i."

"Ie," ebai Tylwyth y ddwy gadwen, "ond y mae y Tylwyth Chwim wedi eu newid. Mae'n rhaid ei fod yn ymyl pan oeddwn yn eu rhoddi i chwi ac yn gwrando ar y cynllun. Ow! Ow! fel y bydd y Tylwyth Teg yn gofidio am hyn. A minnau wedi ymroddi gymaint i ennill eu ffafr, ac mor agos i gael fy ngwobrwyo ganddynt. Ond yn awr collaf y cwbl."

"Nis gallant eich beio chwi," ebai Hywel, "y Tylwyth Chwim sydd yn gyfrifol am hyn i gyd. Pe cawn i weld y Tylwyth Teg, buaswn yn eu sicrhau nad oes bai arnoch chwi. Ond gan nad yw hyn yn bosibl, deydwch wrthynt fod Hywel,—dyna fy enw,—yn barod i dystio o'ch plaid."