Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IV. Y Chwibanogl

Ychydig feddyliai Hywel, tra yn cerdded yn ôl ac ymlaen o dan y coed helyg, ei fod o fewn ergyd carreg i brif gyrchfan y Tylwyth Chwim. Ond ganfod y lle wedi ei amgylchynnu â gwrychoedd tewion, uchel, nid oedd sŵn eu gloddest yn cyrraedd hyd ato. Yr oedd yn y llys y diwrnod hwnnw ddwsinau ohonynt, a phob un yn ei ffordd ei hun yn dangos mor llawen y teimlai, ac amlwg arnynt mai yr un oedd testun llawenydd pob un, ond anodd deall pa beth ydoedd, nes iddynt ffurfio yn orymdaith, a dyna lle 'roeddynt yn gorymdeithio bob yn ddau, a phob dau yn cario rhyngddynt ysgub o ddail, ac wedi dod i lecyn neilltuol yn eu gosod i lawr yn daclus, ac felly erbyn i'r ddau olaf osod eu hysgub, yr oeddynt wedi ffurfio llwyfan fechan, ac yna y maent yn sefyll yn dyrfa o'i blaen mewn distawrwydd. Ond torwyd ar y distawrwydd yn fuan gan sŵn chwibanogl, a dacw ganwr y chwibanogl i mewn drwy y porth, yn cael ei ddilyn gan yr un newidiodd y ddwy gadwen. A'r foment y mae yn ymddangos yn y llys dyna y miri a'r sŵn yn ail ddechreu, a chroeso arwr yn cael ei roddi iddo. Aeth yntau ymlaen i sefyll ar y llwyfan, ac wedi peri iddynt eistedd ar y gwelltglas, dechreuodd adrodd yn fanwl yr hanes sydd eisoes yn hysbys i ni, wedi ei fritho yn helaeth gan ei deimladau personol ef pan yn cyflawni y gorchestwaith, ac mor fedrus ydoedd gyda'r gwaith fel y gellid tybio fod ei wrandawyr yn berwi drosodd o edmygedd ohono. Ond cyn iddo ddod i derfyn ei hanes, dyna dri o'r tylwyth yn rhuthro i mewn, yn galw'n uchel am osteg, trodd pawb eu llygaid arnynt, ac ebai un ohonynt, a'i lais yn crynu gan bwysigrwydd yr hyn a ddywedai,—

"Mae un o gyfeillion Tylwyth y Coed yn cerdded yn ôl ac ymlaen dan y coed helyg."

Ar amrantiad dyna y rhai oedd ar y gwelltglas yn neidio ar eu traed wedi eu cynhyrfu gan yr hyn a glywsant.

Ac ebai'r un oedd ar y llwyfan, yn syn,—"Yn cerdded yn ôl ac ymlaen, onid yw wedi glynu ar y gwelltglas?"

"Nac ydyw, y mae Tylwyth y ddwy gadwen wedi ei ollwng yn rhydd, ac wedi mynd i chwilio am ragor o'r Tylwyth i'w arwain oddiyno. Byddant yn ôl gyda hyn. Rhaid prysuro os ydym am eu rhwystro."

"Yr un sydd ar yr ysgubau sydd i drefnu'r gwaith," ebai un o'r lleill.

"O'r goreu," ebai yntau, "'rwyf yn foddlon." Yna trodd at y sawl oedd a'r