Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwibanogl ganddo, gan ddweyd,—

"Dos di i chwarae y chwibanogl tu ôl i'r gwrych, a chofia chwarae y gân oreu sydd gennyt at suo un i gysgu. Deuaf finnau a rhai eraill ohonom i'w gario yn ôl i'r lle y gwelais ef gyntaf. Nid wyf am ei ddwyn i'n llys yn awr; gwell gen i cyn ei arwain yma ei ddefnyddio i boeni Tylwyth y Coed. Dyna y cynllun goreu, onide?"

"Ie, o ddigon," ebai y gweddill, gan ddilyn tylwyth y chwibanogl drwy y porth, ac yna y maent yn sefyll gyda'i gilydd i'w wylio yn prysuro i gyfeiriad y coed helyg.

Fel y nesai atynt dechreuai Hywel ofni fod Tylwyth y ddwy gadwen wedi ei anghofio, ac ar fin penderfynu cychwyn i chwilio ei hunan am y llwybr oedd yn arwain at y gamfa, ond yn sydyn, dyna nodyn cyntaf y chwibanogl fel yn llanw yr awyr o'i gwmpas. A chan mor hyfryd a pheraidd ydoedd, safodd Hywel yn syth a'i holl feddwl ar unwaith wedi ei iwyr feddiannu gan y miwsig.

"Ardderchog, dderyn bach," meddai, "ble 'rwyt ti, tybed?"

A dyna lle 'roedd yn craffu rhwng brigau y coed, ond yn methu yn lân a gweld yr aderyn, a'r miwsig yn para i fwrlymu i'w glustiau nes bron a'i wirioni. Ond er ei fraw, ymhen ychydig funudau y mae yr awydd am gysgu yn dechreu ei feddiannu.

"O, na," ebai Hywel wrtho ei hunan, "wnaf fi ddim cysgu am bris yn y byd. 'Rwyf yn benderfynol o gadw'n effro, beth bynnag."

Ond fel yr oedd y miwsig yn parhau ac yn cynhyddu mewn swyn i suo, yr oedd yr awyddi gysgu ar Hywel yn mynd yn gryfach, gryfach, a chredai pe bai ond yn cau ei lygaid am foment y byddai ar unwaith yng ngafael cwsg.

"Yn wir," meddai, "mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth i gadw'n effro, mi neidia i a mi wna bob campiau fedra i."

Ond yn hytrach na'i wneud yn fwy effro, yr oedd pob ysgogiad yn peri iddo deimlo yn fwy blin ac yn fwy awyddus i gysgu. Ac o'r diwedd y mae'n dechre sylweddoli mai y miwsig oedd yr achos o hyn, ac meddai, "Miwsig yr aderyn yna sydd yn codi eisiau cysgu arnaf, rhoddaf fy mysedd yn fy nglustiau rhag ei glywed er cystal ydyw."

Ond nid oedd yn bosibl ei gau allan o'i glyw, yr oedd fel pe'n treiddio trwy esgyrn ei ben. "Wel," meddai, "mi ganaf fy hunan gan uched ag y medraf."

A dechreuodd ganu un o hen alawon Cymru, ond aeth yr alaw i gadw cwmni i'r miwsig arall ac i'w helpu, a rhyngddynt aeth yn fwy anodd i Hywel gadw'n effro, ac meddai,—

"Mae'r gân yna yn rhy leddf, mi ganaf un arall a thipyn mwy o fynd