ynddi."
Ac felly y gwnaeth. Ond er canu ar uchaf ei lais mynnai cwsg y llaw drechaf arno, ac o'r diwedd, wedi llwyr ddiffygio gan ei ymdrechion i gadw'n effro, y mae'n syrthio i lawr ar y gwelltglas ac yn cysgu.
Yr oedd Tylwyth y Chwibanogl yn gwylio ei holl symudiadau drwy y gwrych, ac yn fuan wedi iddo ddisgyn i lawr y mae'n ymwthio drwy y drain ato, ac wedi sefyll uwch ei ben am foment, a chael sicrwydd fod cwsg wedi ei drechu, rhedodd nerth ei draed yn ôl i'r llys. Yn y fan honno yr oedd yr un adwaenwn fel Tylwyth yr Ysgubau, a phump o rai eraill yn ei ddisgwyl yn ddyfal, a phan welsant ef,—
"A lwyddaist ti?" meddent gyda'i gilydd.
"Do," ebai yntau, "ond cefais gryn drafferth. Gwnaeth ymdrech galed i gadw'n effro. Buasai'n werth i chwi fod yno i weld yr ystumiau yr aeth drwyddynt, ac yn y diwedd dechreuodd ganu. Ha! Ha!! Ha!!! ni chefais gymaint o hwyl ers talm."
Chwarddodd y rhai oedd yn ei wrando, ac meddai un ohonynt,—"Mae'n amlwg ein bod wedi cael colled!" Ac ebai Tylwyth yr Ysgubau,—"Na feindiwch, cawn glywed yr hanes yn fanwl pan gyferfydd y llys y tro nesaf. Ond gadewch i ni yn awr brysuro at y coed helyg, rhag ofn i Dylwyth y Coed gael y blaen arnom a difetha ein hwyl."
Ac ar hynny y maent yn cychwyn.
Penrhyndeudraeth.