Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V. Tylwyth y Coed

Pan ddaethant at Hywel, parhâi i gysgu, ac yn bur ddiseremoni y maent yn ei gario i'r llecyn lle'r cyfarfyddodd â Charadog, ac wedi ei osod i orwedd yn y gwellt, prysurant ymaith. Ni pharhaodd cwsg Hywel yn hir, ond fel y gellid disgwyl, pan ddeffrôdd yr oedd yn methu'n lân ac amgyffred pa le'r ydoedd, ac meddai, gan edrych yn syn o'i gwmpas,—"Sut yn y byd y deuais i i'r fan hyn? Y goedwig yma ydyw y lle rhyfedda welais i erioed. 'Rydw i 'n mynd i gysgu mewn un lle ac yn deffro mewn lle arall. Dyma y fan y cyfarfyddais â Charadog, a dyma'r gangen a'r goeden lle'r oedd yn siglo ei hunan, a dyma'r llecyn lle safai Tylwyth y Coed i siarad hefo mi. Lle mae o tybed erbyn hyn? 'Roedd o 'n deyd mai rhyw Dylwyth Chwim a'm cariodd at y coed helyg, a oes a wnelo rheini rywbeth ysgwn i a fy nwyn yn ôl i'r fan hyn? Os mai hwy sydd yn fy nghario fel hyn o un lle i'r llall, mae'n rhaid eu bod yn gryfach, neu os nad yn gryfach, yn fwy cyfrwys na Thylwyth y Coed a'r Tylwyth Teg gyda'i gilydd. Beth bynnag am hynny, y mae'n rhaid i mi symud o'r fan hyn a chwilio fy hunan am y llwybr sy'n arwain at y gamfa. A chan na chaf weld y Tylwyth Teg, gobeithiaf y caf lonydd gan y ddau dylwyth arall."

Ond nid oedd Hywel i gael ei ddymuniad. Yn wir, nid oedd wedi cerdded lawn ddwsin o lathenni nac y daeth yn sydyn heibio trofa yn y llwybr i gyfarfod nifer fawr o Dylwyth y Coed, a phob un ohonynt â gwialen hir yn ei law a thusw o ddail ar ei phen, a phan welsant Hywel y maent i gyd yn sefyll ac yn edrych, neu yn fwy cywir, yn rhythu arno, ac yna, yn hollol ddirybudd, yn rhuthro ato ac yn dechreu ei guro â'r tusw dail ar draws ei goesau a'i freichiau, a Hywel yn llefain,—"O peidiwch, peidiwch. Beth wyf wedi wneud i haeddu cael fy nghuro gennych?" A hwythau yn dal i guro ac i siarad ar draws ei gilydd,—

"Mae wedi yspeilio un o'n tylwyth."

"Mae'n gwisgo ein cadwen."

"Rhaid ei fod am ladrata ein coed."

"Tyn y gadwen a dyro hi i ni."

Heb oedi, tynnodd Hywel y gadwen, a lluchiodd hi i'w canol, ac ar unwaith y maent yn peidio a'i guro, ac ebai yntau, gan deimlo bron wedi colli ei anadl wrth geisio osgoi y gwiail,—"Pam na fuasech chi 'n deyd mai eisiau y