gadwen oedd arnoch? Ei chael yn anrheg gan un o'ch tylwyth wnes i. Y mae i chwi groeso ohoni; bu'n fwy o rwystr nac o help i mi."
Yr oedd Hywel yn siarad ar uchaf ei lais, ond nid oedd Tylwyth y Coed yn gwrando ar yr un gair a ddwedai. Yr oeddynt i gyd yn ymwasgu o gwmpas yr un oedd a'r gadwen yn ei ddwylaw, yn ei hedrych yn fanwl, ac yn sibrwd yn gyflym a'i gilydd, ac wedi cael boddlonrwydd ynglŷn â'r gadwen, y maent yn troi at Hywel, ac ebai un ohonynt,—"Tyrd gyda ni i'n llys."
"Na ddeuaf," ebai Hywel, gan afael yn dyn â'i freichiau mewn coeden oedd yn ymyl.
"O'r goreu, ni wnawn dy orfodi." A chyda dweyd hyn y maent yn prysuro ymaith.
Ac ebai Hywel,—"Rhyw greaduriaid rhyfedd ydyw Tylwyth y Coed. 'Rydw i bron a dechreu meddwl mai hwy ydyw y tylwyth i'w hosgoi ac nid y Tylwyth Chwim."
Oherwydd i'r syniad yna ddod i'w feddwl, collodd gyfleustra pe wedi manteisio arno, fuasai yn ei ddwyn i ganol cyfeillion, ac yn fuan wedi hynny, dros y gamfa. Ar eu ffordd i lecyn neilltuol yn y goedwig i fwynhau eu hunain yr oedd Tylwyth y Coed pan y cyfarfyddasant â Hywel. Ond parodd gweled y gadwen am ei wddf, a'i chymryd oddi arno, gymaint o gynnwrf yn eu plith fel y penderfynasant ddychwelyd i'w llys i hysbysu y gweddill o'r Tylwyth yr hyn oedd wedi digwydd, ac i gyflwyno y gadwen yn ôl i'w pherchennog. Darn o dir crwn oedd eu llys wedi ei amgylchynnu â gwrychoedd uchel, yn llawn o ddail gwyrdd, y gwyrdd tlws hwnnw welir yn niwedd y Gwanwyn, ac un bwlch yn y gwrych wedi ei dorri ar ffurf porth yn arwain iddo. Yr oedd y llawr fel melfed esmwyth, ac yma ac acw drwy y gwrych yr oedd blodau mawr melyn yn gwthio eu pennau ac yn llenwi y lle â pherarogl hyfryd. Ac fel yr oedd y rhain fu yn curo Hywel yn neshau, sefai Tylwyth y ddwy gadwen o flaen un o'r blodau, fel pe'n myfyrio wrtho ei hunan, ond torrwyd ar ei fyfyrdodau gan sŵn Tylwyth y tusw dail yn neshau at y porth, a chyda nifer o rai eraill aeth i'w cyfarfod, a phan yn cyrraedd hyd atynt, gwelai un ohonynt a'r gadwen hirgrwn yn hongian wrth ei dusw, a chlywai ef yn traethu'n hyawdl fel yr oeddynt wedi cyfarfod Hywel, a'r hyn ddigwyddodd ar ôl hynny, ac yn diweddu gyda gofyn,—"Eiddo pwy ydyw?"
"Y fi bia'r gadwen," ebai llais yn llawn prudd-der. A phan welwyd pwy oedd ei pherchennog estynwyd y gadwen iddo ar unwaith.
"Ond," meddai un ohonynt, "pam yr wyt ti mor brudd?"
"O," ebai yntau, "y mae fy nhylwyth wedi gwneud camgymeriad mawr heddiw. Dyma'r ail newydd drwg i mi. Y bore clywais fod un oeddwn