Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi addo ei helpu wedi ei gipio i rywle gan y Tylwyth Chwim, cyn i'r help oeddwn yn anfon iddo ei gyrraedd. Ac yn awr, dyma chwithau wedi ei gyfarfod, ac wedi ymddwyn tuag ato fel gelyn, pan nad ydyw ond bachgen diniwed wedi colli ei ffordd yn y goedwig. Y fi roddodd y gadwen iddo, a dyma'r hanes."

Nid oedd ball ar gydymdeimlad Tylwyth y Coed pan glywsant hanes Hywel, ac i ddangos mor ddwfn eu gofid oherwydd yr anffawd, y mae y rhai fu yn ei boeni yn malu y gwiail a'r tusw dail yn ddarnau mân, ac yn cyflwyno yr hawl i gario gwiail i eraill o'r tylwyth, hyd nes y deuid o hyd i Hywel.

Ac meddai Tylwyth y ddwy gadwen,—"Bydd i mi dreulio bob dydd o'r bore hyd yr hwyr i chwilio am Hywel, ni orffwysaf nes cael ei gyfarfod eto."

Ac ebai un arall,—"Daw un rhan ohonom i'th ganlyn, ac fe aiff rhan arall i chwilio o'r hwyr hyd y bore."