VI. Y Tylwyth Chwim
Pan yr oedd Tylwyth y Coed yn cychwyn allan i chwilio am Hywel, yr oedd yntau, ar ôl hir grwydro yn y goedwig, wedi eistedd wrth fôn derwen yn eithaf blin a digalon. A'r syniad mai Tylwyth y Coed oedd y tylwyth i'w osgoi wedi cynhyddu cymaint nes, erbyn hyn, collodd pob ymddiried ynddynt, a gobeithiai na welai yr un ohonynt byth mwy. A chyda bod y dymuniad wedi ei ffurfio yn ei feddwl, yn sydyn a hollol ddirybudd, amgylchynid ef â nifer o'r Tylwyth Chwim. Adwaenodd hwy ar unwaith oddiwrth eu lliw, a chan eu bod yn edrych mor hoffus arno, gwenodd arnynt, a hwythau yn gwenu'n ôl, ac yn moesymgrymu iddo. Yr oedd ofn y Tylwyth Chwim wedi diflannu pan gollodd ei hyder yn Nhylwyth y Coed. Ac wedi i un ddod i sefyll at ei ymyl, y mae'n ei gyfarch fel hyn,—
"Dydd da, ymwelydd. Gobeithiwn dy fod yn mwynhau dy hun yn ein coedwig. Ers pa hryd yr wyt yma?"
Pe bai Hywel heb fod yn cysgu yr adeg honno gallasai ateb,—
"Deuthum i mewn ychydig funudau cyn i chwi newid fy nghadwen." Oblegid yr un wnaeth hynny oedd yn ei gyfarch. Ond gan na wyddai atebodd fel hyn,—"Yr wyf yn y goedwig ers oriau, mi gredaf, ond nid wyf wedi mwynhau fy hunan. Collais y llwybr gynted ag y deuthum i mewn. Yn wir, yr wyf yn ameu a gefais hyd iddo o gwbl. Mae yma gymaint o lwybrau yn groes ymgroes, fel mai anodd iawn yw gwybod pa un sy'n arwain at y ffordd. Ac yr wyf wedi ymdroi gymaint eisioes nes mae'n hen bryd i mi gael mynd dros y gamfa. A ellwch chwi fy nghyfarwyddo?"
"Gyda phleser," ebai y Tylwyth Chwim gyda'i gilydd. "Ond cyn i ni gychwyn," ebai'r un oedd wedi ei gyfarch gyntaf, "Os wyt am i ni dy ddiogelu ar dy daith, mae'n rhaid i ni gael gafael ynnot, ac nis gallwn wneud hynny yn hawdd heb gael dy gylymu â rhaffau sydd gennym bob amser gyda ni at wasanaeth rhai fel ti fydd mewn angen cynorthwy."
Ac meddai wrth y gweddill, cyn i Hywel gael hamdden i dderbyn y rhaffau na phrotestio yn eu herbyn,—"Dylwyth Chwim, moeswch y rhaffau."
A dyna bob un yn tynnu allan o'i fynwes raff deneu, hir, wedi ei gwneud o rywbeth tebig i frwyn. Ac meddai Hywel, gan chwerthin, wedi edrych yn syn ar y rhaffau am eiliad, "Croeso i chwi fy nghlymu, os bydd hynny o ryw help i mi gyrraedd y gamfa yn gynt."